Plu (band)

Oddi ar Wicipedia

Grŵp gwerin-pop Cymraeg yw Plu. Aelodau'r band yw Elan, Marged a Gwilym Bowen Rhys, brawd a dwy chwaer sy'n dod o bentref Bethel ger Caernarfon. Cafodd y grŵp ei ffurfio yn haf 2012 ac maen nhw'n chwarae cerddoriaeth gwerin-bop amgen gyda harmoni clòs tri llais yn asgwrn cefn cyson i’w set amrywiol.

Roedd Plu yn rhan o brosiect Gorwelion, cynllun a redir gan BBC Cymru mewn partneriaeth â Chyngor y Celfyddydau er mwyn datblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru. Fel rhan o’r cynllun, cawsant gyfle i chwarae mewn gwyliau fel Gŵyl y Gelli a Gŵyl Rhif 6 a recordio sesiwn fyw yn stiwdio BBC Maida Vale. Cafodd y tri gyfle i gynrychioli Cymru yn Folk Alliance International, Kansas City fis Chwefror 2016. Maent hefyd wedi cael cyfle i berfformio mewn rhai o wyliau cerddorol Prydain, gan gynnwys Glastonbury a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Albwm cyntaf y grŵp oedd Plu ar label Sbrigyn Ymborth, a gafodd ei ryddhau ym mis Gorffennaf 2013. Aled Hughes o'r band Cowbois Rhos Botwnnog a gynhyrchodd yr albwm yma. Creodd Plu albwm o ganeuon i blant o’r enw Holl Anifeiliaid y Goedwig a gafodd ei ryddhau ym mis Rhagfyr 2014 ar label Sain. Cafodd eu trydydd albwm o’r enw Tir a Golau ei ryddhau ar label Sbrigyn Ymborth fis Tachwedd 2016. Enwebwyd y tri albwm ar gyfer Albwm Cymraeg y flwyddyn am dair blynedd yn olynol gyda’r diweddaraf ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2016. Ym mis Mawrth 2017 perfformiodd Pku yn y Wladfa, Patagonia fel rhan o ŵyl Patagonia Celtica.

Mae Plu hefyd wedi cydweithio gyda Carwyn Ellis o’r band Colorama i greu prosiect 'Bendith'. Ym mis Mai 2016, cafodd sengl y prosiect, Danybanc ei rhyddhau, gyda’r albwm Bendith yn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2016. Cafodd EP Bendith ei rhyddhau ar label Aficionado Records fis Chwefror 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]