Sbrigyn Ymborth

Oddi ar Wicipedia

Label recordiau wedi ei leoli ym Mhen Llyn yw Sbrigyn Ymborth. Sefydlwyd yn 2006. Mae'n cael ei redeg gan Hefin Jones, Aled Hughes; aelod o'r grŵp Cowbois Rhos Botwnnog, a Sion Owen; aelod o'r grwpiau Bob a Madre Fuqueros.

  • Pala - Meddwl yn Ôl (EP) - 2006
  • Cowbois Rhos Botwnnog - Dawns y Trychfilod (albym) - 2007
  • Jen Jeniro - Geleniaeth (albym) - 2008
  • Cowbois Rhos Botwnnog a Gwyneth Glyn - Paid â Deud (sengl) - 2008
  • BOB - Celwydd Golau Dydd (albym) - 2009
  • Y Promatics - 100 Diwrnod Heb Liw (EP) - 2009
  • Jen Jeniro - Dolphin Pinc a Melyn (sengl) - 2010
  • Gildas - Nos Da (albym) - 2010

Cafodd enw'r label ei fathu gan Guto Dafydd, bardd lleol, fel cyfieithiad o'r gair Saesneg am y teclyn chopsticks.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato