Gŵyl Rhif 6

Oddi ar Wicipedia

Mae Gŵyl Rhif 6 yn ŵyl flynyddol sy'n cael ei chynnal ym Mhortmeirion, yng nghymuned Penrhyndeudraeth.

Super Furry Animals

Mae'r ŵyl wedi ei henwi ar ôl "No.6", cymeriad Patrick McGoohan yn y gyfres deledu The Prisoner, a chafodd ei ffilmio ym Mhortmeirion yn ystod y 60au.

Dros y blynyddoedd mae amryw o artistiaid a bandiau Cymraeg a Chymreig wedi cymryd rhan yn yr ŵyl e.e. Super Furry Animals, Swnami, Gwenno, Yr Eira, Geraint Jarman a Meic Stevens.[1]

Yn ogystal mae artistiaid eraill sydd wedi perfformio yn cynnwys Grace Jones, Beck, Kelis, Pet Shop Boys, Laura Mvula, Kate Tempest a Hot Chip.[2]

Portmeirion

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • UK Festival Awards: Line Up of the Year (2012)
  • Live Music Business Awards: Best Small Festival (2014)
  • UK Festival Awards: Best New Festival (2012)
  • UK Festival Awards: Best Headline Profile for New Order (2012)
  • NME Awards: Best Small Festival (under 50k capacity) (2012)
  • BBC 6Music & Q Magazine: Festival Highlight of 2012
  • The Evening Standard: Best Festival of 2012

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]