Sŵnami (albwm)
Gwedd
Sŵnami | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Sŵnami | ||
Rhyddhawyd | Awst 2015 | |
Label | I Ka Ching |
Albwm cyntaf y grŵp Sŵnami yw Sŵnami. Rhyddhawyd yr albwm yn Awst 2015 ar y label I Ka Ching.
Wedi rhai blynyddoedd o ryddhau senglau ac EPs, fe ddaeth record hir gyntaf y grŵp o Ddolgellau erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Er bod sŵn pop electronig Ewropeaidd cyfarwydd Sŵnami i’w glywed trwy’r albwm, maen nhw’n arbrofi tipyn gyda synau gwahanol hefyd.
Dewiswyd Sŵnami yn albwm gorau 2015 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
[golygu | golygu cod]O wrando ar y cynnyrch yn ei gyfanrwydd, ceir awgrym fod sŵn y band yn newid ac ehangu...ond mae’r riffiau bachog a’r alawon cofiadwy yn parhau i fodoli
—Ifan Prys, Y Selar