Neidio i'r cynnwys

Yr Eira

Oddi ar Wicipedia
Yr Eira
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Mae Yr Eira yn fand roc indie o ardal Bangor, Gwynedd.

Daeth y band yn adnabyddus yn y Sîn Roc Gymraeg yn sgîl y gân 'Elin', a recordiwyd fel sesiwn i BBC Radio Cymru yn 2013. Cafodd y gân honno ei henwebu am gân orau'r flwyddyn yng ngwobrau'r Selar. Yn ogystal â hynny, bu iddynt ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn ngŵyl Wakestock y flwyddyn honno.

Rhyddhaodd y band eu dwy sengl gyntaf, Ymollwng ac Yr Euog ar label I Ka Ching yn 2014.

Un o lwyddiannau mwyaf y band hyd yma oedd sicrhau lle ar restr bandiau prosiect Gorwelion y BBC yn 2014.[1] Drwy hynny, bu iddynt chwarae ar lwyfan BBC Introducing yng ngŵyl T in the Park, un o wyliau cerddorol mwyaf y Deyrnas Unedig, y flwyddyn honno.

Cyfrannodd y band gân, 'Pan Na Fyddai'n Llon, ar gyfer albwm aml gyfrannog I Ka Ching - 5, a drefnwyd gan I Ka Ching i ddathlu 5 mlynedd eu bodolaeth.

Mae'r band bellach wedi rhyddhau eu halbwm gyntaf, Toddi, ar label I Ka Ching. Rhyddhawyd yr albwm ar y 7fed o Orffennaf, 2017.[2]

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Ymollwng (Sengl, 2014)
  • Yr Euog (Sengl, 2014)
  • Colli Cwsg (EP, 2014)
  • Walk on Water (Sengl, 2015)
  • Suddo (Sengl, 2016)
  • yn ymddangos ar 'I Ka Ching - 5' gyda 'Pan Na Fyddai yn Llon'
  • Toddi (Albwm, 2017)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.bbc.co.uk/programmes/profiles/49xG2YCgcTvF2Dd8FgTtW5J/yr-eira
  2. "Yr Eira -- Toddi | I Ka Ching". I Ka Ching. 02/07/17. Check date values in: |date= (help)