Peithien
Gwedd
| Peithien | |
|---|---|
| Ganwyd | 560 Rheged |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | meudwy |
| Dydd gŵyl | 30 Ionawr |
| Tad | Coel Hen |

Santes o Gymru oedd Peithien neu Pethan (Lladin: Peteona) (bl. 6g). Fe'i cysylltir â safle Capel Lligwy ger Moelfre ar Ynys Môn.[1] Dethlir ei dydd mabsant ar yr un diwrnod â Santes Tybïe, sef 30 Ionawr.
Traddodiad
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys am y santes hon. Yn ôl yr hen achau, roedd Peithien yn un o ferched Caw, tad y seintiau Gildas, Allgo (sefydlydd Llanallgo ym Môn) ac Eugrad (sefydlydd Llaneugrad ym Môn). Roedd ganddi ddwy chwaer, hwythau hefyd yn santesau o Ynys Môn, sef Cywyllog a Gwenafwy.[1]