Capel Lligwy
| Math | eglwys |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Moelfre |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 57.3 metr |
| Cyfesurynnau | 53.3524°N 4.2564°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth ganoloesol |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, heneb gofrestredig |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | AN056 |
Eglwys ganoloesol ar Ynys Môn yw Capel Lligwy (hefyd: Capel Llugwy neu Hen Gapel Lligwy). Fe'i lleolir ger Moelfre yng ngogledd-orllewin yr ynys, ger siambr gladdu gynhanesyddol Lligwy a phentref caerog Din Lligwy.
Codwyd y capel ar dir uchel uwchlaw Traeth Lligwy yn y 12g, a hynny yn ystod teyrnasiad Owain Gwynedd, brenin Gwynedd, yn ôl pob tebyg. Yn y 14g ailadeiladwyd rhan uchaf y muriau a gosod to newydd: gellir gweld y gwahaniaeth rhwng cerrig y muriau isaf a'r rhai newydd a osodwyd arnynt.[1]
Yn yr 16g, ychwanegwyd capel i'r de o'r prif adeilad. Ceir claddgell (crypt) 8'x8' o dan y capel gyda grisiau carreg yn arwain i lawr iddi. Yn ymyl yr egwys ceir maen gyda thwll ar ei ben a fu'n sylfaen croes garreg yr eglwys ar un adeg. Mae'r eglwys a'r tir o'i chwmpas yn cael eu hamgau gan furiau'r llan.[1]
Mae'r eglwys - a elwir yn 'gapel' am ei bod yn is-eglwys yn perthyn i reithoriaeth arall - yn adfail erbyn hyn, heb do. Mae'n heneb gofrestredig sydd yng ngofal Cadw.

