Allgo

Oddi ar Wicipedia
Allgo
Ganwyd600 Edit this on Wikidata
Llanallgo Edit this on Wikidata
Bu farw660 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl27 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadGildas Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd Allgo neu Gallgo (Lladin: Allectus) (bl. 6g). Fe'i cysylltir â phlwyf Llanallgo ger Moelfre ar Ynys Môn.[1] Mae ei ddydd gŵyl ar 27 Tachwedd.[2]

Eglwys Sant Gallgo.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Allgo yn frawd i Sant Eugrad, sefydlydd Llaneugrad ym Môn, ac yn un o feibion Gildas fab Caw yn ôl yr achau traddodiadol a elwir yn Bonedd y Saint. Fel ei frawd Eugrad, dywedir iddo gael ei ddysgu gan Sant Illtud yn ei glas enwog yn Llanilltud Fawr ym Morgannwg a hefyd, yn ôl rhai ffynonellau, yn Llancarfan.[1]

Cysegrwyd eglwys plwyf Llanallgo yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn i Allgo. Mae'n gapel dan eglwys ei frawd yn Llaneugrad.[1] Ceir Ffynnon Allgo ger yr eglwys a gerllaw mae safle Capel y Ffynnon lle arferai'r plwyfolion weddïo i Allgo er cael iachad o anhwylderau; mae lefel uchel o fwyn swlffaidd yn y dŵr.[3]

Roedd gan Peithien, chwaer Allgo ac Eugrad yn ôl rhai ffynonellau, eglwys yn Nghapel Lligwy yn yr un ardal.[1]

Culhwch ac Olwen[golygu | golygu cod]

Ceir cyfeiriad at 'Calcas (Kalcas) fab Caw' fel un o farchogion Arthur yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen a thybir mai llygriad o 'Gallgo' ydyw.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 , T.D. Breverton The Book of Welsh Saints (Glyndwr Publishing, 2000).
  2. Lives of British Saints; adalwyd 8 Ionawr 2017.
  3. Francis Jones, The Holy Wells of Wales.
  4. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988).