Osbwrn Wyddel

Oddi ar Wicipedia
Osbwrn Wyddel
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtirfeddiannwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1293 Edit this on Wikidata

Roedd Osbwrn Wyddel bl 13g yn uchelwr Gwyddelig, mae'n debyg o dras Gymreig. Trwy ei briodas ac etifeddes (dienw) Corsygedol daeth yn gyff nifer o deuluoedd bonheddig Meirionnydd.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad roedd Osbwrn yn ddisgynnydd i'r Dywysoges Nest ferch Rhys ap Tewdwr a'i gŵr Gerald de Windsor. Chwaraeodd un o feibion Nest a Gerald, Maurice FitzGerald, rhan flaenllaw yn yr oresgyniad Normanaidd o'r Iwerddon.[2] Yn ôl Syr William Betham, Herodr Wlster roedd Osbwrn yn ail fab i John Fitzgerald un o ddisgynyddion Maurice.

Dyfodiad i Gymru[golygu | golygu cod]

Does dim sicrwydd pryd na pham daeth Osbwrn i Gymru. Mae gwahanol awduron yn rhoi gwahanol ddyddiadau o 1200 i 1260. Y traddodiad yw ei fod wedi dod o'r Iwerddon gyda 100 o ŵyr meirch gydag ef ac wedi cynnig ei wasanaeth ef a'i fyddin i Llywelyn ap Iorwerth neu Llywelyn ap Gruffudd a bod y tywysog wedi roi'r hawl i briodi aeres Corsygedol fel diolch iddo.[3] Mae'r rheswm dros ddod yn wahanol mewn gwahanol adroddiadau:

  • Fel gosgordd i amddiffyn Gruffudd ap Ednyfed Fychan ar ei ddychweliad i Gymru wedi iddo pechu Llywelyn Fawr.
  • Ffoi rhag dialedd teulu Iarll Gwyddelig roedd wedi ei ladd[4]
  • Bod ei deulu wedi colli dylanwad ar ôl bod ar yr ochr a gollodd mewn rhyfel rhwng arweinwyr Gwyddelig.

Mae Darrell Wolcott mewn traethawd ar gyfer Ancient Wales Studies yn awgrymu bod Osbwrn wedi dod am y rheswm syml ei fod yn ail fab i uchelwr nad oedd am fod yn etifedd yn wlad ei enedigaeth a'i bod am geisio sefyllfa yn wlad ei hynafiad.[5]

Yr unig beth a wyddys i sicrwydd am Osbwrn Wyddel yw ei fod yn ymddangos ar restr cymorthdaliadau lleyg Meirion am 1292/3, fel trethdalwr sylweddol yn nhrefgordd Llanaber.[6]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ymysg y teuluoedd bonheddig sydd yn honni eu bod yn ddisgynyddion i Osbwrn mae Fychaniaid Corsygedol,[3] teulu Nannau o'r Nannau Llanfachreth,[7] teulu Barwniaid Harlech Y Glynn[8], Wyniaid Glyncywarch, Wyniaid Peniarth[1] a thrwy gyd briodas rhwng y teuluoedd hyn nifer fawr o rai eraill.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad Osbwrn fu'n gyfrifol am adeiladu eglwys Llanaber a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yno.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "OSBWRN WYDDEL (yn fyw yn 1293), | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-05-11.
  2. "Osbwrn Wyddel [Osborn the Irishman] (fl. 1292–1293), dynastic founder". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/20868. Cyrchwyd 2022-05-11.
  3. 3.0 3.1 Davies (Iolo Meirion), Edward (1870). Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion. Caernarfon: J Davies. t. 36.
  4. Archaeologia Cambrensis Pumed Gyfres Cyf. III Rhif XII Hydref, 1886,  Rhiwaedog, Ynys Maen Gwyn, Dolau Gwyn, And Nannau
  5. "Osbwrn Wyddel of Cors Gedol". www.ancientwalesstudies.org. Cyrchwyd 2022-05-11.
  6. Williams-Jones, Keith (1976). The Merioneth lay subsidy roll, 1292-3. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 54. ISBN 0-7083-0597-0. OCLC 2837155.
  7. Williams, Philip Nanney (2016). Nannau : a rich tapestry of Welch history. Welshpool, Powys, Wales: Llwyn Estates Publication. ISBN 978-0-9955337-0-7. OCLC 966259479.
  8. Archaeologia Cambrensis, 1900 tud 126 Glynn
  9. Cymru. Vol. 21, 1901 Eglwys Llanaber