Omar Khayyam

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Omar Khayyām)
Jump to navigation Jump to search
Omar Khayyam
Omar Khayyam2.JPG
Ganwyd 18 Mai 1048 Edit this on Wikidata
Nishapur Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Rhagfyr 1131 Edit this on Wikidata (83 oed)
Nishapur Edit this on Wikidata
Galwedigaeth mathemategydd, seryddwr, bardd, awdur geiriau, athronydd, cerddor, astroleg Edit this on Wikidata
Arddull Ruba'i Edit this on Wikidata

Mathemategydd, seryddwr, athronydd a bardd oedd Omar Khayyām (Persieg: عمر خیام / Omar-e Khayyām) (18 Mai 1048 - 4 Rhagfyr 1131), a anwyd yn Nishapur, Persia.

Mae Omar Khayyām yn fwyaf abnabyddus yn y Gorllewin am ei gasgliad o gerddi, Rubaiyat Omar Khayyām, ond yn ei wlad enedigol fe'i cofir yn bennaf am ei waith gwyddonol ac athronyddol. Fel ei gyfoeswr agos y bardd Faruddin Attar, Sŵffi oedd Omar Khayyam ac mae olion athroniaeth gyfrinol y Sŵffiaid i'w gweld yn glir yn ei farddoniaeth.

Cyfieithiad Edward FitzGerald o'r Rubaiyat[golygu | golygu cod y dudalen]

Llun dychmygol o Omar Khayyām (o argraffiad o fersiwn Fitzgerald o'r Rubaiyat, 1905)

Aralleiriad neu addasiad yw'r fersiwn o'r Rubaiyat a gyhoeddwyd gan Edward FitzGerald (1809-1883) yn 1859. Mae wedi rhedeg i nifer o argraffiadau ers hynny, rhai ohonyn' nhw yn llyfrau cain gyda darluniau gan arlunwyr fel Gilbert James. Roedd Rubaiyat FitzGerald yn arbennig o boblogaidd ar droad yr 20g.

Cyfieithiadau Cymraeg o'r Rubaiyat[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfieithiwyd casgliad o waith Omar Khayyām (Penillion Omar Khayyam) o'r Bersieg gwreiddiol i'r Gymraeg gan Syr John Morris-Jones ym 1928. Serch hynny mae dylanwad cyfieithiad Saesneg FitzGerald yn amlwg ynddo. Dyma bennill ohono:

Yn wir, rhyw ddernyn gwyddbwyll ydyw dyn,
Tynged yn chware â hwnnw'i chware'i hun;
Ein symud ar glawr Bywyd, ôl a blaen,
A'n dodi 'mlwch yr Angau, un ac un.[1]

Yn 1939 cyhoeddodd Thomas Ifor Rees (1890-1977) ei drosiad ei hun o fersiwn Saesneg Edward FitzGerald o'r Rubaiyat yn Dinas Mecsico, gyda lluniau gan yr arlunydd Robert Hesketh.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. John Morris-jones, Caniadau.