Ni Bia'r Awyr

Oddi ar Wicipedia
Ni Bia'r Awyr
AwdurGuto Dafydd
CyhoeddwrCyhoeddiadau Barddas
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi24/10/2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781906396787
GenreBarddoniaeth

Cyfrol o gerddi gan Guto Dafydd yw Ni Bia'r Awyr a gyhoeddwyd yn 2014 gan Gyhoeddiadau Barddas. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[1]

Cyfrol gyntaf o gerddi Guto Dafydd, bardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Gâr 2014, yn adlewyrchu'r profiad o fyw drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Gymru gyfoes.

Yr awdur[golygu | golygu cod]

O Drefor, wrth droed yr Eifl ym Mhen Llŷn, y daw Guto'n wreiddiol ac mae bellach yn byw ym Mhwllheli. Mynychodd Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Meirion-Dwyfor cyn mynd ymlaen i raddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Cwblhaodd draethawd hir ar waith Wiliam Owen Roberts ac Iwan Llwyd -– dau lenor sydd wedi dylanwadu cryn dipyn arno.

Erbyn hyn mae'n gweithio i Wasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg Cyngor Gwynedd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 ac mae'n aelod o dîm Talwrn y Tywysogion a thîm ymryson Caernarfon. Mae hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd i sawl cyhoeddiad arall. Cyhoeddodd nofel dditectif i bobl ifanc (Jac) gyda'r Lolfa ddechrau'r haf ac ymddangosodd ysgrif ganddo ar Iwan Llwyd yn y gyfrol Awen Iwan a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]