Neville Alexander

Oddi ar Wicipedia
Neville Alexander
Ganwyd22 Hydref 1936 Edit this on Wikidata
Cradock Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 2012 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner De Affrica De Affrica
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Linguapax, Order of Luthuli Edit this on Wikidata

Roedd Neville Alexander (22 Hydref 193627 Awst 2012) yn ieithydd o Dde Affrica, yn academydd ac ymladdwr yn erbyn apartheid[1] ac yn Farcsydd[2]. [1] Bu'n argymell amlieithrwydd ac yn argymell datblygu ieithoedd cynhenid De Affrica. Yn 2008, enillodd Wobr Linguapax International am ei gyfraniad at amrywiaeth ieithyddol ac addysg amlieithog. Carcharwyd am ei ddaliadau gwleidyddol gwrth-apartheid.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Clawr Neville Alexander; 'Language Policy and National Unity in South Africa/Azania'[1], 1989
Index 'Language Policy and National Unity in South Africa/Azania', Neville Alexander, 1989

Ganed Alexander ar 22 Hydref 1936 yn Cradock yn Nwyrain Cape, De Affrica i David James Alexander, saer, a Dimbiti Bisho Alexander, athrawes ysgol. Roedd mam-gu ei fam yn dod o Ethiopia a gafodd ei achub gan y Prydeinwyr o gaethwasiaeth.[3] Roedd o dras "cymysg" - Kaapse Kleurling, (Cape Coloured).

Fe'i haddysgwyd a'i enwi yn yr Holy Rosary Convent yn Cradock ym 1952. Yna bu'n astudio am chwe blynedd ym Mhrifysgol Cape Town, lle enillodd radd BA mewn Almaeneg a Hanes (1955). Cwblhaodd ei Anrhydedd yn Almaeneg flwyddyn yn ddiweddarach. Aeth ymlaen wedi i ddilyn MA mewn Almaeneg yn ymwneud â dramodydd baróc Silesiaidd Andreas Gryphius a Daniel Caspar von Lohenstein. Yn 1961 enillodd PhD o Brifysgol Tübingen gyda'i draethawd hir ar y newid arddull yn waith dramatig Gerhart Hauptmann.

Blynyddoedd Apartheid[golygu | golygu cod]

Tra yn yr Almaen penderfynodd Alexander na fyddai'n priodi gan y gwyddai y byddai'n "diweddu yn y carchar".[4] Wedi dychwelyd i Affrica daeth yn gyd-sylfaenydd yr Yu Chi Chan Club (YCCC) i greu chwyldro guerilla a'r Ffrynt Rhyddhad Genedlaethol (NLA) ym 1963.[4] Er ei fod yn athro ysgol yn Livingstone (ysgol i blant 'lliw' yn Cape Town) fe'i arestiwyd a'i gael yn euog o gynllwyn i ymrwymo sabotage. Fe'i cafodd ei gadw ar Ynys Robben o 1964 i 1974 gydag ymgyrchwyr eraill megis Nelson Mandela a Walter Sisulu.[5]

Ar ôl Apartheid[golygu | golygu cod]

Gyda cwymp aparteid sefydlwyd LANGTAG (Language Plan Task Group) yn 1995 gyda'r pwrpas o gynghori Gwienidog y Celfyddydau, Diwylliant, Gwyddoniaeth a Thechnoleg newydd, Dr B. S. Ngubane, ar gynllun iaith genedlaethol i Dde Affrica. Tagiwyd y pwyllgor, a gadeiriwyd gan Alexander, i baratoi glasbrint ar gyfer cynllunio ieithyddol, a cyflwynwyd hwn i'r Gweinidog yn 1996.[4]

Yn 2002 ysgrifennodd ragair i gyfieithiad Swlw o'r Maniffesto Comiwnyddol. Ynddo mae'n nodi pwysigrwydd ac ymnerthiad cyhoeddi'r Maniffesto mewn iaith frodorol, er cyn-hwyred y gwnaed hynny, sy'n profi bod y "political education of the emerging leadership of the working class in colonial and postcolonial Africa took place in the languages of the colonial masters, i.e., in French and English".

Yn 2001 sefydlwyd ALCALAN (African Academy of Languages) dan adain Undeb Affrica fel asiantaeth polisi a chynllunio ieithyddol swyddogol yr Undeb gyda'r amcan i gynllunio strategaeth i gwrth-hegomiaidd. Nododd Alexander:

Laissez-faire policy notoriously reinforces the agendas of dominant groups. To continue to believe in the twenty-first century that language planning is illusory at best and tantamount to evil social engineering at worst is, ultimately, to deny the possibility of social justice.[4]

Yn 2004, cyd-gadeiriodd bwyllgor llywio newydd ar gyfer yr Implementation of the Language Plan of Action for Africa (ILPAA) yn Yaoundé, prifddinas Camerŵn.

Yn 2008, derbyniodd Alexander wobr Linguapax. Dyfarnwyd y wobr bob blwyddyn ers 2000 am gyfraniadau at amrywiaeth ieithyddol ac addysg amlieithog. Yn ôl y dyfynbris, ymroddodd dros 20 mlynedd o'i fywyd proffesiynol i hyrwyddo amlieithrwydd mewn De Affrica ar ôl-apartheid ac mae wedi dod yn un o eiriolwyr gwych amrywiaeth ieithyddol.[6]

Gwnaeth ddatganiadau dadleuol yn 2005, ac ymhlith pethau eraill, dywedodd mynychwyr yr Afrikaanse Taalberaad (fforwm iaith Affricaneg) yn Stellenbosch: "Mae'r Afrikaner yn gorff. Dim ond chi sy'n dal i gredu ynddo oherwydd nad ydych chi'n ymwybodol ohono".[7]

Roedd hefyd yn argymell ail-safoni Affricaneg.

Bu'n cydweithio'n agos gyda CASAS (Centre for Advanced Studies of African Society) [2] ac eraill, fel Kwesi Kwaa Prah oedd am safonni a chysoni orgraff ieithoedd cynhenid Affrica ac na fyddai'r ieithoedd gwladychol (Saesneg, Ffrangeg, Portiwgaleg) yn dod yn unig ieithoedd Affrica.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Alexander ar 27 Awst 2012, yn 75 oed, wedi salwch canser.

Cynhwysir archif papurau a llawysgrifau Neville Alexander ym Mhrifysgol Cape Town.[8]

Cynhelir cynhadledd flynyddol yn ei enw i gofio am ei waith ac ar themâu gwahanol gan gynnwys dad-wladychu, amlieithwydd ac hawliau iaith.[9]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Llyfrau[golygu | golygu cod]

Ymysg y llyfrau ganddo ac amdanno mae:

  • One Azania, One Nation: The National Question in South Africa, 1979, ISBN 978-0-905762-41-8
  • An Ordinary Country: Issues in the Transition from Apartheid to Democracy in South Africa, 2003, ISBN 978-1-57181-261-2
  • Thoughts on the New South Africa, 2013 (postuum), ISBN 978-1-4314-0586-2
  • Interviews with Neville Alexander: The power of languages against the language of power Gol. Brigitta Busch, Lucijan Busch, Karen Press, 2014. Adolygiad o'r llyfr

Papurau[golygu | golygu cod]

Ymysg y papurau a'r traethodau a gyhoeddwyd ganddo mae:

  • The politics of language planning in post Apartheid South Africa - Language Problems & Language Planning 28:2 (2004), 113–130. issn 0272–2690 / e-issn 1569–9889 ©John Benjamins Publishing Company [3] Archifwyd 2017-08-09 yn y Peiriant Wayback.
  • Language Policy and National Unity in South Africa/Azania, 1989 ac argraffiad digidol, 2013 [4]
  • Language Policy and Planning in the New South Africa, 1997 [5]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Struggle vet Alexander dies The New Age, 28 April 2012
  2. https://www.pambazuka.org/governance/remembering-neville-alexander-nation-building-and-communist-manifesto
  3. "SA History – Neville Edward ALEXANDER". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-06. Cyrchwyd 21 Februarie 2009. Check date values in: |accessdate= (help)
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 https://www.sahistory.org.za/people/dr-neville-edward-alexander
  5. "PBS Interview about Mandella". Cyrchwyd 21 Februarie 2009. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. "Niamey Blog". Cyrchwyd 21 Februarie 2009. Check date values in: |accessdate= (help)
  7. Die nalatenskap van Neville Alexander Archifwyd 2012-10-15 yn y Peiriant Wayback., PRAAG, 29 Augustus 2012 (Skakel nie aktueel!)
  8. http://www.lib.uct.ac.za/alexander-papers
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-20. Cyrchwyd 2019-01-10.