Neil Gray

Oddi ar Wicipedia
Neil Gray
Neil Gray


Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mai 2015

Geni (1986-03-16) 16 Mawrth 1986 (37 oed)
Kirkwall, Ynysoedd Erch, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Airdrie a Shotts (etholaeth seneddol)
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Stirling
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Neil Gray (ganwyd 16 Mawrth 1986) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Airdrie a Shotts; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark, yr Alban. Mae'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i magwyd yn Kirkwall, Ynysoedd Erch. Graddiodd ym Mhrifysgol Stirling ble astudiodd y Gyfraith a Newyddiaduraeth ac wedi graddio, gweithiodd fel cynhyrchydd a gohebydd BBC Radio'r Ynysoedd Erch rhwng 2003 hyd 2008. Wedi hynny, bu'n swyddog y wasg ac ymchwilydd i'r SNP yn Senedd yr Alban, cyn cael ei benodi'n rheolwr swyddfa i Alex Neil MSP - a bu yno hyd nes y cafodd ei ethol yn AS yn 2015.

Mae'n athletwr cryf, a chynrychiolodd yr Alban mewn cystadleuthau rhedeg 400m tan iddo niweidio'i ben-glin yn ddifrifol.

Etholiad 2015[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Neil Gray 23,887 o bleidleisiau, sef 53.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 30.4 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 8,779 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]