Mynydd Myddfai

Oddi ar Wicipedia
Mynydd Myddfai
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr440 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.9535°N 3.7387°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN8068929722 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd127 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaTwr y Fan Foel Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Map

Bryn sy'n safle carneddau cylchog o Oes yr Efydd ydy Mynydd Myddfai, ym Myddfai, Sir Gaerfyrddin; cyfeiriad grid SN806297.

Carneddau cylchog[golygu | golygu cod]

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg.

Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch".

Cofrestrwyd yr heneb hwn gan Cadw gyda'r rhif SAM: CM346.[1]

Ceir carnedd gylchog arall gerllaw, a hynny ar ochr Orllewinol y mynydd: cyfeiriad grid SN794289. Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: CM349.[1]

Dosbarthiad[golygu | golygu cod]

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 313metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 440 metr (1444 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]