Mynydd Illtud
Gwedd
Math | bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.928°N 3.49°W |
Bryn gwastad yn ne Powys yw Mynydd Illtud. Saif ger pentref Libanus yng nghymuned Glyn Tarell yn ardal Brycheiniog. Wrth ei ymyl ceir Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n dir comin.
Illtud
[golygu | golygu cod]Mae Mynydd Illtud yn un o sawl llecyn yn yr ardal a gysylltir â Sant Illtud, sant o'r 5ed a'r 6g a sefydlodd glas Llanilltud Fawr. Ceir Pyllau Illtud, Tŷ Illtud a Bedd Gŵyl Illtud (carnedd gron) yn yr un ardal.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).