Tŷ Illtud

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tŷ Illtud
Math siambr gladdu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.928517°N 3.312627°W Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw BR011 Edit this on Wikidata

Heneb, a math o siambr gladdu sy'n perthyn i Oes Newydd y Cerrig a chyn hynny (rhwng 3,000 a 2,400 C.C.)[1] ydy Tŷ Illtud, ger Llanfrynach, Powys; cyfeiriad grid SO098263. [2]

Gelwir y math yma o siambr yn siambr gladdu hir (lluosog: siambrau claddu hirion) ac fe gofrestrwyd siambr gladdu Tŷ Illtyd fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: BR011.

Fe'i codwyd gan y Celtiaid i gladdu'r meirw ac, efallai, yn ffocws cymdeithasol i gynnal defodau yn ymwneud a marwolaeth.

Illtud[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiria'r enw at y sant Illtud, a gysylltir â'r heneb mewn traddodiad lleol: dywedir iddo ei defnyddio fel cell feudwy. Yn yr un ardal ceir Bedd Gŵyl Illtud, Pyllau Illtud a Mynydd Illtud.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan English Heritage
  2. Data Cymru Gyfan, CADW
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.