Bedd Gŵyl Illtud
Gwedd
Math | carnedd gron |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.926171°N 3.494204°W |
Cod OS | SN9739026390 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | BR326 |
Carnedd gron sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd ydy Bedd Gŵyl Illtud, yng nghymuned Glyn Tarell, Powys; cyfeiriad grid SN973263. Ei phwrpas, mae'n debyg, oedd bod yn rhan o seremoniau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu'r meirw. Ni ddylid cymysgu'r garnedd gron gyda'r garnedd gylchog (Saesneg: ring cairn) sy'n fath cwbwl wahanol i garnedd.
Illtud
[golygu | golygu cod]Mae'r enw yn ei chysylltu â Sant Illtud (6g); dethlir gwylmabsant Illtud, sef Gŵyl Illtud, ar y 6ed o Dachwedd. Roedd yn arfer cynnal gwylnos yno ar Noson Gŵyl Illtud. Saif y garnedd ger Eglwys Llanilltud a Mynydd Illtud. Ceir Pyllau Illtud yn yr un ardal hefyd.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: BR326.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
- ↑ Cofrestr Cadw.