Mynydd Hermon
| Math | mynydd, lle yn y Beibl, pwynt uchaf |
|---|---|
| Sefydlwyd |
|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Lebanon–Syria border |
| Sir | Rashaya District, Quneitra Governorate |
| Gwlad | tiriogaethau Palesteinaidd a feddianwyd gan Israel |
| Uwch y môr | 2,813.95 metr |
| Cyfesurynnau | 33.4°N 35.85°E |
| Amlygrwydd | 1,804 metr |
| Cadwyn fynydd | Anti-Lebanon mountains |
![]() | |
| Deunydd | calchfaen |
Mynydd yn y Dwyrain Canol yw Mynydd Hermon (Arabeg: Jebel Al Shaikh, Hebraeg: הר חרמון, Har Hermon). Saif ym mynyddoedd Antilibanus, gyda'r copa ar y ffin rhwng Libanus a Syria. Mae tua 100km2 o'r llethrau de-orllewinol dan reolaeth Israel ers y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967; cyhoeddodd Israel yn 1980 fod y diriogaeth yma yn cael ei hymgorffori. Mae gan Syria ac Israel arsyllfeydd milwrol ar lethrau'r mynydd.
Mae Mynydd Hermon yn enwog am ei harddwch, a chanodd llawer o feirdd Hebraeg ac Arabeg iddo. Ceir tarddle Afon Iorddonen ar ei lethrau, a cheir nifer o gyfeiriadau ato yn y Beibl. Oherwydd hyn, mae'n bur gyffredin fel enw ar gapel yng Nghymru, a cheir yr enw "Hermon" ar o leiaf dri phentref, Hermon (Sir Gaerfyrddin), Hermon (Sir Benfro) a Hermon (Ynys Môn).
