Y Mynydd Bychan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mynydd Bychan)
Y Mynydd Bychan
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.511°N 3.199°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000848 Edit this on Wikidata
Map

Ardal yng ngogledd Caerdydd ydy'r Mynydd Bychan (Saesneg: Heath). Mae'r rhan fwyaf o dai yr ardal yn rhai led-wahân, dosbarth canol, a adeiladwyd yn ystod y 1920au–1950au. Adeiladwyd Ysbyty Athrofaol Cymru ar hen safle Coedwig Mynydd Bychan yn yr 1960au, felly mae'r rhanfwyaf o lefydd gwyrdd yr ardal wedi diflannu. Mae Parc Mynydd Bychan wedi goroesi fodd bynnag, gyda choed a glaswellt, cyfleusterau chwaraeon a rheilffordd stêm ar raddfa fechan.

Y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 1,422 o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg. Y ffigwr cyfatebol yng nghyfrifiad 2001 oedd 1,378. O ran canran y siaradwyr, fodd bynnag, gwelwyd cwymp rhwng 2001 a 2011 (12.1%>11.7%). Esbonnir hyn gan ostyngiad yn nifer y siaradwyr dros 65 oed; cafwydd cynnydd yn y grwpiau oedran 3–15 a 16–64.[1]

Lleolir Ysgol Mynydd Bychan (ysgol gynradd Gymraeg) yn ardal Gabalfa i'r de o'r Mynydd Bychan.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Comisiynydd y Gymraeg: Cyfrifiad 2011: canlyniadau yn ôl Cymuned Archifwyd 2015-01-06 yn y Peiriant Wayback.; gwelwyd 24 Ionawr 2015.
  2. "Gwefan Ysgol Mynydd Bychan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-10. Cyrchwyd 2008-11-10.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato