Myles Davies
Gwedd
Myles Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1662 Chwitffordd |
Bu farw | c. 1715 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llyfryddiaethwr |
Awdur o Gymru ar bynciau crefyddol oedd Myles Davies (1662 – 1715 neu 1716).[1] Ysgrifennai yn Lladin a Saesneg o safbwynt Protestanwr yn erbyn daliadau a dylanwad Pabyddiaeth.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Myles Davies ym mhlwyf Chwitffordd, Sir y Fflint, yn 1662. Cafodd ei hyfforddi i fod yn offeiriaid Catholig yng Ngholeg Seisnig yr Iesiwitiaid yn Rhufain ond droes yn Brotestant ar ôl dychwelyd i Gymru. Disgrifia ei droedigaeth yn ei lyfr The Recantation of Mr Pollett, a Roman Priest (1705). Ei brif waith yw'r Athenae Britannicae (1716), ar y ddadl rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth, sy'n cynnwys ei ddrama Ladin Pallas Anglicana.[2]
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- The Recantation of Mr Pollett, a Roman Priest (1705)
- Athenae Britannicae (6 chyfrol, 1716)
- Pallas Anglicana. Drama Ladin.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Roberts, R. Julian (2004). "Davies, Myles (b. 1662, d. in or after 1719)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/7253.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).