Muhammad ibn Mūsā al-Khwārizmī
Gwedd
| Muhammad ibn Mūsā al-Khwārizmī | |
|---|---|
| Ganwyd | محمد بن موسى الخوارزمي c. 780 Khwarazm, Unknown |
| Bu farw | c. 850 Baghdad |
| Man preswyl | Baghdad |
| Galwedigaeth | mathemategydd, seryddwr, daearyddwr, athronydd, cyfieithydd, hanesydd |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Al-Jabr |
Mathemategydd, seryddwr a daearyddwr Persiaidd oedd Muhammad ibn Mūsā al-Khwārizmī, Arabeg: محمد بن موسى الخوارزمي, (tua 780 - tua 850). Cafodd ei eni yn ninas Khwarezm (Khiva yn Wsbecistan heddiw). Bu'n gweithio yn Baghdad am y rhan fwyaf o'i oes, ac ystyrir ef yn dad algebra. Ei waith ef, Rhifyddiaeth, a gyflwynodd y pwynt degol i'r gorllewin. Ysgrifennai yn Arabeg yn hytrach na Perseg. Cafodd ei waith ddylanwad mawr yn Ewrop trwy gyfieithiadau Lladin.

Mewn daearyddiaeth, cyhoeddodd ei Kitāb ṣūrat al-Arḍ ("Llyfr ymddangosiad y ddaear") yn 833, fersiwn wedi ei ddiweddaru a'i gwblhau o Geographia yr ysgolhaig Groegaidd Ptolemi.