Mudéjar
Gwedd
| Enghraifft o: | grŵp o bobl |
|---|---|
| Lleoliad | Coron Aragón, Coron Castilia, Portiwgal |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05b9wq |
Mudéjar yw'r enw a roddir i ddilynwyr Islam a arhosodd yn y tiriogaethau oedd wedi eu concro gan y Cristionogion yn Al-Andalus yn Sbaen yn ystod y Reconquista, ond heb droi at Gristionogaeth. Daw o'r gair Arabeg Mudajjan مدجن, "rhai sy'n derbyn darostyngiad". Wedi cwymp Granada yn Ionawr 1492, caniatawyd i'r Mudéjar barhau i ddilyn eu crefydd am beth amser, ond erbyn canol y 16g gorfodwyd hwy i droi at Gristionogaeth, a gelwid hwy y Morisgiaid.
Defnyddir y gair hefyd am arddull mewn pensaernïaeth, a geir yn arbennig yn Aragon a Castilla, yn dyddio o'r 12g hyd y 16g, sy'n dangos dylanwad Islamaidd cryf. Bathwyd y term Arddull Mudejar gan José Amador de los Ríos yn 1859.