Michaela Coel

Oddi ar Wicipedia
Michaela Coel
GanwydMichaela-Moses Ewuraba O Boakye-Collinson Edit this on Wikidata
1 Hydref 1987 Edit this on Wikidata
Aldgate Edit this on Wikidata
Man preswylEast London Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, sgriptiwr, dramodydd, ysgrifennwr, actor ffilm, showrunner Edit this on Wikidata
Adnabyddus amChewing Gum, I May Destroy You Edit this on Wikidata
Gwobr/auBritish Academy Television Award for Best Female Comedy Performance, OkayAfrica 100 Benyw Edit this on Wikidata

Mae Michaela Ewuraba Boakye-Collinson (ganwyd 1 Hydref 1987), a adnabyddir yn broffesiynol fel Michaela Coel, yn actores, sgriptwraig, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, canwr, cyfansoddwr caneuon, bardd a dramodydd Seisnig.[1] Mae hi'n fwyaf adnabyddus am greu a serennu yn y gomedi sefyllfa ar E4 Chewing Gum (2015–2017), gan enillodd Wobr BAFTA am y Perfformiad Comedi Benywaidd Gorau am y cynhyrchiad yma.[2][3] Ysgrifennodd a serennodd yn y ddrama gomedi BBC One/HBO I May Destroy You (2020).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Michaela Ewuraba Boakye-Collinson[4] yn Llundain ar 1 Hydref 1987. Roedd ei rhieni o Ghana. Magwyd hi a'i chwaer hŷn yn Llundain, yn bennaf Hackney a Tower Hamlets, gyda'i mam;[5] gwahanodd ei rhieni cyn ei genedigaeth. Mynychodd ysgolion Catholig yn Nwyrain Llundain,[6] ac mae wedi dweud bod ei hunigrwydd fel yr unig ddisgybl du yn ei charfan oedran yn yr ysgol gynradd wedi peri iddi fwlio disgyblion eraill. Ni pharhaodd yr unigedd i'w haddysg uwchradd mewn ysgol gyfun.[7]

Rhwng 2007 a 2009, mynychodd Coel Brifysgol Birmingham, gan astudio Llenyddiaeth a Diwinyddiaeth Saesneg. Cymerodd ddosbarth meistr Ché Walker yn RADA ar ôl cwrdd â Walker mewn noweithiau meic agored. Yn 2009, trosglwyddodd i Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, lle hi oedd y fenyw ddu gyntaf i gofrestru mewn pum mlynedd.[5] Enillodd wobr Bwrsariaeth Laurence Olivier, a helpodd i ariannu ei haddysg.[8] Yn ystod ei hamser yn y Guildhall, mynychodd weithdy Mark Proulx yn Prima del Teatro a chymerodd Gwrs Barddoniaeth Kat Francois yn y Theatre Royal Stratford East. Graddiodd o Ysgol Cerdd a Drama Guildhall yn 2012.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 2006, cychwynodd Coel berfformio mewn nosweithiau barddoniaeth 'meic agored' yn Ealing.[9] Wrth iddi barhau i wneud nosweithiau tebyg, cafodd ei hannog gan yr actor, y dramodydd, a'r cyfarwyddwr Ché Walker, a'i gwelodd yn perfformio yn Hackney Empire, i wneud cais i Guildhall.[5][7] Fel bardd mae hi wedi perfformio ar lwyfannau gan gynnwys Wembley Arena, Bush Theatre, Nuyorican Poets Cafe, a Rotterdam De Doelen Concert Hall. Defnyddiodd yr enw Michaela The Poet.[4]

Yn 2009, ymunodd Coel â rhaglen ysgol haf Cwmni Theatr Talawa, TYPT. Yn ystod ei hamser yn Talawa perfformiodd yng nghynhyrchiad o Krunch, wedi'i gyfarwyddo gan Amani Naphtali. Yn 2009, rhyddhaodd Coel albwm o'r enw Fixing Barbie, a oedd yn cynnwys ei gwaith fel bardd a cherddor.[10] Yn 2011, rhyddhaodd Coel y record "We’re the Losers".

Yn 2012 ei phrosiect uwch / graddio yn Guildhall oedd ei drama, Chewing Gum Dreams, ac fe’i cynhyrchwyd gyntaf yn Theatr Yard yn Hackney Wick. Roedd y ddrama yn sioe un fenyw gyda Cole yn adrodd stori ddramatig merch 14 oed o'r enw Tracey.[5] Aeth y ddrama ymlaen i gael ei chynhyrchu gan Theatr Bush (2012), Royal Theatre Holland (2012), Royal Exchange Theatre (2013), a'r National Theatre (2014).[1] Derbyniodd adolygiadau cadarnhaol.[11][12]

Ymddangosodd Coel yn nrama Channel 4, Top Boy, a chwaraeodd rannau blaenllaw yn y National Theatre, gan gynnwys Home a cynhyrchiad o Medea yn Theatr Olivier a ganmolwyd gan y beirniad.[13]

Ym mis Awst 2014, cyhoeddodd Channel 4 fod Coel am serennu ac ysgrifennu comedi newydd o'r enw Chewing Gum, wedi'i ysbrydoli gan ei drama Chewing Gum Dreams.[14] Rhyddhawyd tamaid i aros pryd ar "C4 Comedy Blaps" ym mis Medi 2014, a cychwynodd y gyfres ar E4 ym mis Hydref 2015.[7] Enillodd ei pherfformiad wobr Teledu’r Academi Brydeinig am y Perfformiad Comedi Benywaidd Gorau yn 2016. Hefyd enillodd BAFTA am Breakthrough Talent am ysgrifennu'r sioe.[15] Derbyniodd Chewing Gum adolygiadau cadarnhaol dros ben.[16]

Yn 2015, ymddangosodd Coel yn nrama BBC One London Spy.[17] Yn 2016, bu’n serennu yn nrama gomedi sci-fi E4 The Aliens, a saethwyd ym Mwlgaria.[18][19] Roedd yn portreadu'r cymeriad, Lilyhot.[20]

Dychwelodd Chewin Gum am ail gyfres ym mis Ionawr 2017.[6][21] Ymddangosodd hefyd ym mhenodau " Nosedive" ac "USS Callister" yng nghyfres Charlie Brooker, Black Mirror.[22] Roedd ganddi rhan fach hefyd yn y ffilm opera ofod 2017 Star Wars: The Last Jedi [23]

Yn 2018, serenodd Coel yn Black Earth Rising, cyd-gynhyrchiad rhwng BBC Two a Netflix, lle chwaraeodd y prif gymeriad Kate. Bu hefyd yn serennu fel Simone yn y ffilm ddrama gerdd Been So Long, a ryddhawyd ar Netflix i adolygiadau cadarnhaol ym mis Hydref 2018.

Fe wnaeth Coel greu, ysgrifennu, cynhyrchu, cyd-gyfarwyddo a serennu yn y gyfres ddrama gomedi I May Destroy You, wedi'i hysbrydoli gan ei phrofiad ei hun o ymosodiad rhywiol.[24] Lansiwyd y sioe ar BBC One yn y DU a HBO yn yr UDA ym mis Mehefin 2020 i ganmoliaeth eang.[25][26]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Yng Gwobrau BAFTA 2016, gwisgodd Coel ffrog wedi'i gwneud o frethyn Kente, a wnaed gan ei mam.[27] Mae hi wedi dweud iddi ddod, fel ei chymeriad Tracey yn Chewing Gum, yn grefyddol iawn yn y ffydd Bentecostaidd, ac wedi coleddu dibriodrwydd.[5] Er ei bod yn dal i ystyried ei hun yn Gristion, rhoddodd Coel y gorau i ymarfer Pentecostaliaeth ar ôl mynychu Guildhall.[7] Mae hi'n nodi ei fod yn anromantaidd.[28]

Ffilmograffeg[golygu | golygu cod]

Film[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2010 Malachi Donna Locke Ffilm fer
2014 National Theatre Live: Medea Nurse
Monsters: Dark Continent Kelly
2017 Star Wars: The Last Jedi Resistance Monitor
2018 Been So Long Simone

Television[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2013 Top Boy Kayla 2 bennod
Law & Order: UK Maid Pennod: "Paternal"
2015 London Spy Newyddiadurwr Pennod: "Strangers"
2015–2017 Chewing Gum Tracey Gordon 12 pennod

Hefyd awdur, cynhyrchydd a chyfansoddwr
2016 The Aliens Lilyhot 6 episodes
Black Mirror Airline Stewardess Pennod: "Nosedive"
2017 Shania Lowry Pennod: "USS <i id="mwASU">Callister</i>"
2018 Black Earth Rising Kate Ashby 8 pennod
2019 RuPaul's Drag Race UK Ei hun Pennod: "Family That Drags Together"
2020 I May Destroy You Arabella Essiedu 12 pennod

Hefyd awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd

Llwyfan[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Lleoliad
2013 Three Birds Tiana Bush Theatre
Home[13] Young Mum / Portugal Royal National Theatre
Chewing Gum Dreams Tracey Gordon Royal Exchange Theatre
2014 Blurred Lines Michaela Royal National Theatre
Home (Revival) Young Mum / Portugal Royal National Theatre
Chewing Gum Dreams Tracey Gordon Royal National Theatre
Medea[6] Nurse Royal National Theatre

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

EP

  • 22 May (2007)

LPs

  • Fixing Barbie (2009)
  • We're the Losers (2011)[4]

Gwobrau ac enwebiadau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Corff gwobrwyo Categori Enwebiad Canlyniad Ref.
2008 Theatre Royal Stratford East Poetry Slam Ei hun Buddugol
2009 Buddugol
2010 Buddugol
Cordless Show Barddoniaeth/Cerddoriaeth Buddugol
2011 Gwobr Laurence Olivier Gwobr Bursary Buddugol [8]
2012 Gwobr Alfred Fagon Dramodydd Gorau o linach Affricanaidd neu Garibeaidd Chewing Gum Dreams Buddugol [29]
2016 Gwobr British Academy Television Award Perfformiad Benywaidd Comedi Gorau Chewing Gum Buddugol [2][3]
Comedi Ysgrifennedig Gorau Enwebwyd [30]
Talent torri trwodd Buddugol [31]
Gwobr RTA Programme Torri trwodd Buddugol [32][33]
Perfformiad Comedi Buddugol
Awdur - Comedi Enwebwyd
Gwobr South Bank Sky Arts Gwobr Times Breakthrough Ei hun Enwebwyd [34]
2017 Gwobr Black Reel Television Cyfres Gomedi Eithriadol Chewing Gum Enwebwyd [35]
Ysgrifennu Eithriadol, Cyfres Gomedi Enwebwyd
Ysgrifennu Eithriadol, Cyfres Gomedi Enwebwyd
2018 Gwobr Gŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin Gwobr EFP Shooting Star Ei hun Buddugol [36]
Gwobr British Academy Television Comedi Ysgrifennedig Gorau Chewing Gum Enwebwyd [37]
Gwobr Black Reel Television Actores Gefnogol Rhagorol, Ffilm deledu/Cyfres fer Black Mirror Enwebwyd [38]
Gwobr British Independent Film Newydd-ddyfodiad Mwyaf Addawol Been So Long Enwebwyd [39]
2019 Gwobr Teledu Black Reel Actores Rhagorol, Ffilm deledu/Cyfres fer Black Earth Rising Enwebwyd [40]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geoghegan, Kev (25 Mawrth 2014). "Michaela Coel: A rising star at the National Theatre". BBC News.
  2. 2.0 2.1 "Michaela Coel's Inspiring Acceptance Speech" (Video). BAFTA TV Awards 2016. 8 Mai 2016.
  3. 3.0 3.1 "Female Performance in a Comedy Programme". BAFTA TV Awards 2016. 2016.
  4. 4.0 4.1 4.2 M-Brio Music (6 Medi 2011). "Michaela 2.0? The Re-Branding of Michaela The Poet". M-Brio Music. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 25 Rhagfyr 2016.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Tate, Gabriel (18 Medi 2015). "Meet Michaela Coel, the rising star behind E4's Chewing Gum". London Evening Standard.
  6. 6.0 6.1 6.2 Brown, Emma (19 Rhagfyr 2016). "The Showrunner". Interview.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 Hattenstone, Simon (4 Hydref 2015). "Filthy, funny and Christian: the many sides of Chewing Gum's Michaela Coel". The Guardian.
  8. 8.0 8.1 Marshall, Charlotte (21 Gorffennaf 2014). "Introducing... Michaela Coel". Official London Theatre.
  9. Ross, Jonathan (26 Chwefror 2016). "Spoken Word star Michaela Coel performs a poem for Jonathan" (Radio interview). The Radio 2 Arts Show with Jonathan Ross, BBC Radio 2.
  10. Flavourmag Team (7 Rhagfyr 2009). "Michaela: The Birth of a Poet – 'Fixing Barbie' album". Flavourmag.
  11. Costa, Maddy (19 Mawrth 2014). "Chewing Gum Dreams review: An effervescent look at adolescence". The Guardian.
  12. "Chewing Gum Dreams, National's Shed – theatre review". London Evening Standard. 20 Mawrth 2014.
  13. 13.0 13.1 Khan, Naima (21 Awst 2013). "Homebody: An interview with Michaela Coel". Plays, Films & Plays.
  14. "Interview with Michaela Coel". Channel 4. 16 Medi 2015.
  15. Bryant, Taylor (28 Tachwedd 2016). "Michaela Coel on Her Brilliant Show 'Chewing Gum' · NYLON". Nylon.
  16. Kang, Inkoo (23 Tachwedd 2016). "'Chewing Gum' Is A Late Bloomer's Hilarious Quest For Sexual Experience". MTV News.
  17. "Bursting with flavour, E4 announces tasty new comedy series for 2015" (Press release). Channel 4. 21 Awst 2014.
  18. Dowell, Ben (1 Mawrth 2016). "Chewing Gum star Michaela Coel experienced 'racist attack' while filming The Aliens in Bulgaria". Radio Times.
  19. Gilbert, Gerard (26 Chwefror 2016). "Michaela Coel on Chewing Gum, rude sex, Jeremy Corbyn". The Independent.
  20. British Comedy Guide (7 Mawrth 2016). "Michaela Coel interview – The Aliens". British Comedy Guide.
  21. Adewunmi, Bim (7 Mai 2016). "Why I love… Michaela Coel". The Guardian.
  22. Doran, Sarah (22 Ebrill 2016). "Michaela Coel says Black Mirror role is "the most amazing part I've ever played"". Radio Times.
  23. Fullerton, Huw (19 Rhagfyr 2017). "Star Wars: The Last Jedi: secret cameos and guest actors REVEALED including Ade Edmondson". Radio Times. Cyrchwyd 2018-12-06.
  24. Rackham, Annabel (11 Mehefin 2020). "Michaela Coel: Writing about my sexual assault was 'cathartic'". BBC News Online.
  25. Ali, Lorraine (14 Mehefin 2020). "Commentary: A new HBO series rethinks the sexual assault survivor story. It's brave and charming". Los Angeles Times.
  26. Mangan, Lucy (8 Mehefin 2020). "I May Destroy You review – could this be the best drama of the year?". The Guardian.
  27. "#MakingGhanaProud – Michaela Coel wins second BAFTA". Live 91.9 FM. 9 Mai 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-25. Cyrchwyd 2020-06-30.
  28. "Michaela Coel On London and Love in Netflix Musical 'Been So Long'". 15 Tachwedd 2018.
  29. "2012 Award". Alfred Fagon Award.
  30. "BAFTA Television Awards 2016 – winners in full". RadioTimes. 8 Mai 2016. Cyrchwyd 24 Mehefin 2020.
  31. "Television Craft Breakthrough Talent in 2016". BAFTA TV Awards. 2016.
  32. Gove, Ed (22 Mawrth 2016). "Royal Television Society announces Programme Awards winners". Royal Television Society.
  33. "RTS Programme Awards 2016". Royal Television Society. 2016.
  34. Durrant, Nancy (18 Mawrth 2016). "And the nominees are..." The Times.
  35. "Meet the Nominees". Black Reel Awards. 30 Mehefin 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-26. Cyrchwyd 2020-07-01.
  36. "Search Shooting Stars Database". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-20. Cyrchwyd 24 June 2020.
  37. "2018 Virgin TV BAFTA Television Awards Nominations Announced". BAFTA. 4 April 2018. http://www.bafta.org/media-centre/press-releases/nominations-announced-for-tv-awards-2018. Adalwyd 24 Mehefin 2020.
  38. "Meet the Nominees". Black Reel Awards. 15 Mehefin 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-03. Cyrchwyd 2020-07-01.
  39. "'The Favourite' leads 2018 BIFA nominations". Screendaily. Cyrchwyd 24 Mehefin 2020.
  40. "Black Panther "Roars!"". Black Reel Awards. 13 Rhagfyr 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-18. Cyrchwyd 2020-07-01.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]