Charlie Brooker

Oddi ar Wicipedia
Charlie Brooker
Ganwyd3 Mawrth 1971 Edit this on Wikidata
Reading Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Westminster
  • Wallingford School Edit this on Wikidata
Galwedigaethsgriptiwr, cynhyrchydd teledu, newyddiadurwr, digrifwr, cyflwynydd teledu, showrunner Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodKonnie Huq Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr, sgriptiwr a darlledwr o Sais yw Charlton "Charlie" Brooker (ganwyd 3 Mawrth 1971). Mae'n feirniad teledu sy'n defnyddio hiwmor ffyrnig a rheglyd ac yn aml pesimistaidd.

Cychwynnodd ei yrfa yn y 1990au gyda'r cylchgrawn PC Zone a'r wefan TVGoHome[1] o 1999 hyd 2003. Ysgrifennodd adolygiad teledu wythnosol, "Screen Burn", yn The Guardian o 2000 hyd 2010.[2] Mae hefyd yn ysgrifennu colofn yn The Guardian.

Cyflwynodd tri chyfres ar BBC Four yn y 2000au: Screenwipe, Newswipe, a Gameswipe. Cyflwynodd hefyd dwy gyfres o'r gêm banel You Have Been Watching ar Channel 4. Cyflwynodd Brooker gyfres ddogfen ar bwnc teledu, How TV Ruined Your Life ar BBC Two yn 2011. Ef hefyd oedd un o gyflwynwyr y gyfres newyddion ddychanol 10 O'Clock Live ar Channel 4, gyda Jimmy Carr, David Mitchell, a Lauren Laverne.[3] Creodd Black Mirror, cyfres ddrama ddychanol o dair phennod a ddarlledwyd ar Channel 4 yn 2011.

Priododd y gyflwynwraig teledu Konnie Huq yn 2010,[4] a chafodd blentyn yn 2012.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) At home with TVGoHome. BBC (29 Awst 2001). Adalwyd ar 16 Hydref 2012.
  2. (Saesneg) Brooker, Charlie (15 Hydref 2010). Charlie Brooker: Why I'm calling time on Screen Burn. The Guardian. Adalwyd ar 16 Hydref 2012.
  3. (Saesneg) Wightman, Catriona (11 Ionawr 2011). Mitchell 'picked 10 O'Clock over Bubble'. digitial spy. Adalwyd ar 16 Hydref 2012.
  4. (Saesneg) Konnie Huq and Charlie Brooker marry in Las Vegas. BBC (30 Awst 2010). Adalwyd ar 16 Hydref 2012.
  5. (Saesneg) Konnie Huq gives birth to baby Covey Brooker Huq. The Daily Telegraph (24 Mawrth 2012). Adalwyd ar 16 Hydref 2012.