Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield
Cyfesurynnau: 52°55′18″N 2°45′52″W / 52.92165°N 2.76446°W
Gwarchodfa Natur Genedlaethol ar y ffîn rhwng Cymru a Lloegr yw Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield.
Saif y warchodfa tua 15 km i’r de-ddwyrain o dref Wrecsam. Mae'r ffîn yn rhedeg trwy'r warchodfa; gyda Fenn's Moss gerllaw Bronington ym mwrsdeisdref sirol Wrecsam yng Nghymru a Whixall Moss yn Swydd Amwythig yn Lloegr.
Cyforgors yw'r safle, a chydag arwynebedd o 575 hectar hi yw'r drydedd fwyaf yng ngwledydd Prydain. Mae'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Fenn’s, Whixall, Bettisfield, Wem & Cadney Mosses, sy'n 948 hectar i gyd.
Gwelir Gylfinir, Bod Tinwen, Troellwr Mawr, Tylluan Corniog, Cwtiad Aur, Hebog Tramor, Cudyll Bach, Pibyll Torchog, Cornchwiglen a Bras Melyn.[1]
Mae pili-palod hefyd, gan gynnwys Gwibiwr Llwyd a Glöyn Brimstan, a gwelir Llygoden y Dŵr, Ystlum, Ysgwarnog, Bele, Mochyn Daear, Llyfant, Broga, Madfall, Neidr Ddefaid, Gwiber a Neidr y Glaswellt.[1]
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cysylltiad allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Erthygl yn Y Naturiaethwr gan Dr J.L. Daniel Archifwyd 2011-08-09 yn y Peiriant Wayback.