Tylluan gorniog

Oddi ar Wicipedia
Tylluan Gorniog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Strigiformes
Teulu: Strigidae
Genws: Asio
Rhywogaeth: A. otus
Enw deuenwol
Asio otus
(Linnaeus, 1758)
Asio otus otus

Mae'r Dylluan Gorniog (Asio otus) yn aelod o deulu'r Strigidae, fel y rhan fwyaf o dylluanod. Mae'n aderyn cyffredin neu gweddol gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, Asia a Gogledd America.

Mae'r Dylluan Gorniog fel rheol yn byw mewn coedwigoedd sy'n agos i dir agored, lle gall hela. Mae'n nythu mewn coeden, gan ddefnyddio hen nythod adar eraill megis brain, ac yn dodwy 4 neu 5 wy. Mamaliaid bychain, yn enwedig llygod, yw'r prif fwyd ond gall fwyta adar hefyd.

Tylluan ganolig o ran maint yw'r aderyn yma, 31–37 cm o hyd a 86–98 cm ar draws yr adenydd. Fel rheol dim ond yn y nos y mae'n hela, ond weithiau gellir eu gweld yn cysgu mewn coeden yn ystod y dydd. Mae'r plu yn frown ar y cefn ac yn fwy gwelw ar y bol. Mae'n eithaf tebyg i'r Dylluan Glustiog, ond bod y plu hir o gwmpas y clustiau yn hirach yn y Dylluan Gorniog, ac mae ganddi lygaid oren, nid llygaid melyn fel y Dylluan Glustiog.

Nid yw'n aderyn cyffredin yng Nghymru, er fod nifer fychan o barau yn nythu. Efallai fod hyn i raddau oherwydd ei bod yn methu cystadlu a'r Dylluan Frech; yn Iwerddon lle na cheir y Dylluan Frech, mae'r Dylluan Gorniog yn llawer mwy niferus.