Mary Lou Williams
Mary Lou Williams | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Mary Elfrieda Scruggs ![]() 8 Mai 1910 ![]() Atlanta ![]() |
Bu farw | 28 Mai 1981 ![]() Durham ![]() |
Label recordio | Atlantic Records, Decca Records, Brunswick Records, King, Victor ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | jazz pianist, cyfansoddwr, arweinydd band, athro, artist recordio ![]() |
Cyflogwr | |
Arddull | jazz, cerddoriaeth glasurol, free jazz, hard bop, cerddoriaeth swing, big band, cerddoriaeth yr efengyl ![]() |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrodoriaeth Guggenheim, honorary doctor of Fordham University ![]() |
Cerddor jazz oedd Mary Lou Williams (ganwyd Mary Elfrieda Scruggs; 8 Mai 1910 – 28 Mai 1981). Roedd yn chwarae'r piano ac yn canu, ond roedd ei chyfraniad fwyaf fel cyfansoddwr ac arweinydd ar fandiau. Fe ysgrifennodd gannoedd o gyfansoddiadau ac fe recordiodd gannoedd o recordiau.[1] Yn ogystal â'i bandiau ei hunain, chwaraewyd ei chyfansoddiadau gan fandiau gerddorion jazz eraill megis Duke Ellington a Benny Goodman, ac roedd yn gyfaill ac yn fentor i nifer fawr o gerddorion o'r genhedlaeth iau, gan gynnwys Thelonious Monk, Charlie Parker, Miles Davis, Tadd Dameron, Bud Powell, a Dizzy Gillespie ymysg eraill.
Yn ystod y 1930au a'r 1940au bu Williams yn arwain ei bandiau ei hunan ac yn perfformio fel unawdydd yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer cerddorion eraill. Roedd y rhain yn arddull swing boblogaidd y cyfnod, fodd bynnag yn y 1940au bu Williams yn cymdeithasu ac yn ymwneud â cherddorion bebop y genhedlaeth newydd. Ar ôl cyfnod heb chwarae yn ystod yr 1950au, bu'n cyfansoddi cerddoriaeth grefyddol gan mwyaf yn ystod y 1960au a'r 1970au (cafodd dröedigaeth i gatholigiaeth yn 1956), megis Mary Lou's Mass (1964). Roedd y gerddoriaeth hon yn aml yn dangos dylanwad gospel a cherddoriaeth grefyddol, glasurol.
Ei dylanwad mwyaf amlwg oedd Duke Ellington, a drodd at gerddoriaeth grefyddol hefyd yn hwyr yn ei yrfa.
Bu farw Williams o ganser yn 1981. Fei'i hystyrir yn un o'r merched pwysicaf yn hanes jazz.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Genedigaethau 1910
- Marwolaethau 1981
- Cyfansoddwyr benywaidd yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfansoddwyr jazz o'r Unol Daleithiau
- Cerddorion Affricanaidd-Americanaidd
- Merched a aned yn y 1910au
- Pianyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Pianyddion jazz o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned yn Atlanta, Georgia
- Pobl fu farw yng Ngogledd America