Marie de France

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Marie de France: darlun mewn llawysgrif gyfoes

Llenor o ail hanner y 12fed ganrif a aned yn Ffrainc ac sy'n adnabyddus fel awdures cyfres o gerddi Ffrangeg ar themâu chwedlonol yw Marie de France (fl. diwedd y 12g - dechrau'r 13g). Credir iddi gael ei geni yng ngogledd Ffrainc, efallai yn Normandi, ac iddi dreulio cyfnod sylweddol o'i hoes yng nghylchoedd Normanaidd Lloegr. Mae cynnwys rhai o'i cherddi yn dangos cysylltiad â Llydaw a'i thraddodiadau hefyd.

Dynes ddiwylliedig oedd Marie, yn medru Ffrangeg, Saesneg a Lladin, ac yn gyfarwydd â thraddodiadau Llydewig am gylch y Brenin Arthur yn ogystal â llenyddiaeth Ladin ganoloesol a chlasurol. Mae rhai ysgolheigion wedi ceisio dangos ei bod yn hanner-chwaer i'r brenin Plantagenaidd Harri II ac iddi fod yn abades ar Abaty Shaftesbury rhwng 1181 a 1215.

Gweithiau llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei gwaith enwocaf yw ei Laïs (cerddi naratifol) am gariad a rhamant o naws ryfeddol a swynol, y credir bod rhai ohonynt yn deillio o ddeunydd "Celtaidd" (h.y. Llydewig). Ceir deuddeg ohonynt, sef:

  • Guigemar
  • Equitan
  • Le Fresne, chwedl ryngwladol am y ferch Griselda
  • Bisclavert
  • Lanval, stori am un o farchogion Arthur sy'n sôn am Gaerlyr (fersiwn Saesneg Canol: Sir Launfal)
  • Les Deus Amanz
  • Yonec, a leolir yn Ne Cymru
  • Laüstic
  • Milun, a leolir yn Ne Cymru
  • Chaitivel
  • Chevrepoil (neu Chèvrefeuil), chwedl am Drystan ac Esyllt a leolir yng Nghernyw
  • Eliduc

Cyfansoddodd hefyd Esope, casgliad o gerddi seiliedig ar foeschwedlau Aesop. Mewn llawysgrifau diweddarach cafwyd yr enw Isopet (ney Ysopet) a daeth hyn i'w arfer fel enw am gasgliadau canoloesol o'r fath yma o chwedlau. Cyfansoddodd hefyd fersiwn Ffrangeg Normanaidd o chwedl Purdan Padrig.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Marie de France: Lais, gol. A. Ewert (Rhydychen, 1947, 1960)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]