Margaret Thomas

Oddi ar Wicipedia
Margaret Thomas
Ganwyd1779 Edit this on Wikidata
Sir Gaernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethemynydd Edit this on Wikidata

Emynydd oedd Margaret Thomas (hefyd Pegi Llwyd) a anwyd 1779 yn Nhalybont Uchaf, Llanllechid, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw).[1]

Magwraeth a theulu[golygu | golygu cod]

Ganwyd hi yn Margaret Lloyd i'w thad William Llwyd y Faenol, ger Bangor[2][3] Priododd Edmund Williams a ganed merch iddynt yn 1803. Yn 1817 priododd Pegi eilwaith, gydag Edward Thomas, Talybont Uchaf, ger Castell y Penrhyn. Ganwyd mab iddynt yn 1818 a bu farw yn 1863; Edward oedd ei enw yntau.

Roedd o deulu "athrylithgar" a llenyddol, a gwyddwn i nifer o weinidogion gael eu danfon ati er mwyn dysgu sut "i ddysgu arferion da ac ymddygiad gweddus".

Yr emynydd[golygu | golygu cod]

Ysgrifennai ei hemynau ar ochr-dudalennau ei Beibl (gyhoeddwyd yn 1725) a llyfrau crefyddol eraill.[2][3] Ni chyhoeddwyd dim o'i hemynau yn ystod ei bywyd.[2] Y Parch. Thomas Levi a ddaeth ar draws ei gwaith gan eu cyhoeddi wedi ei marwolaeth yn y cylchgrawn Cymraeg ''Y Traethodydd a hynny yn 1904.[2][4] Hi ysgrifennodd yr emyn adnabyddus "Dyma Feibil annwyl Iesu", er nad yw hynny'n hollol sicr gan iddi ar adegau gopio emynau pobl eraill yn ei llyfrau.[2][3] Mae ei hemynau wedi cael eu disgrifio fel rhai "pwerus a gwahanol, gyda gogwydd benywaidd cryf iddynt."[2]

Dyma'r emyn enwocaf a ysgrifennodd:

Dyma Feibl anwyl Iesu,
Dyma rodd deheulaw Duw,
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw;
Dengys hwn y codwm erchyll
Gafwyd draw yn Eden drist,
Dengys hwn y ffordd i'r bywyd
Trwy adnabod Iesu Grist.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. welshjournals.llgc.org.uk; adalwyd 24 Medi 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Aaron, Jane (2010). Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 21. ISBN 9780708322871.
  3. 3.0 3.1 3.2 Rees, Thomas Mardy (1908). Notable Welshmen (1700–1900) (yn Saesneg). Herald Office. t. 79.
  4. Levi, Thomas. "Margaret Thomas yr Emynyddes" (PDF). Y Traethodydd 59 (1904) 338-43.