Neidio i'r cynnwys

Margaret Jones

Oddi ar Wicipedia
Margaret Jones
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Am yr arlunydd o'r un enw, gweler Margaret Jones (arlunydd).

Awdur teithio o Gymru oedd Margaret Jones (Mawrth 184218 Hydref 1902). Daeth yn adnabyddus am ysgrifennu am ei theithiau mewn gwledydd dramor a gyhoeddwyd o dan y ffugenw Y Gymraes o Ganaan.

Roedd yn hannu o Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych. Cychwynnodd ei gyrfa fel llawforwyn i deulu yn Lloegr, cyn treulio blynyddoedd lawer yn teithio a gweithio ym Mhalesteina [1][2] a Libanus yn gyntaf, Moroco yn ddiweddarach, ac yna Unol Daleithiau America ac Awstralia, cyn setlo i briodi yn Awstralia yn hwyrach yn ei bywyd. Cyhoeddwyd llawer o'i llythyron o Balesteina, at ei theulu yn ôl yng Nghymru, yn 1869 dan y teitl, Llythyrau Cymraes o Wlad Canaan [3], ac yna wedi treulio peth amser yn Moroco ar daith wahanol, cyhoeddwyd disgrifiad o'u profiadau yno yn 1883 dan y teitl, Moroco a'r Hyn a Welais Yno [4].

Aeth wedyn ar daith drwy'r Unol Daleithiau gan fynd ymhellach eto i gyfandir Awstralia ble priododd ffarmwr o'r enw Josey. Bu farw ar 18 Hydref 1902 yn Redbank Plains, Queensland, Awstralia.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  1. Jones, Eirian. Y Gymraes o Ganaan (2011)
  2. Jones, Eirian. The Welsh Lady from Canaan (2012)
  3. Jones, Margaret. Llythyrau Cymraes o Wlad Canaan (1869)
  4. Jones, Margaret. Morocco, a'r Hyn a Welais Yno (1883)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]