Margaret George

Oddi ar Wicipedia
Margaret George
Ganwyd19 Ionawr 1943 Edit this on Wikidata
Tennessee Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, hanesydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.margaretgeorge.com Edit this on Wikidata

Awdur llyfrau hanesyddol Americanaidd yw Margaret George (ganwyd 19 Ionawr 1943) sy'n arbenigo mewn ffuglen hanesyddol, yn enwedig bywgraffiadau dychmygol. Mae'n nodedig hefyd am ei gwaith ymchwil manwl ac ystod eang ei llyfrau.[1] Caiff ei hystyried gan lawer fel un o'r nofelydd hanesyddol gorau o'i chyfnod.[2]

Fe'i ganed yn Tennessee ar 19 Ionawr 1943. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Stanford a Phrifysgol Tufts.[3][4]

Hi yw awdur y nofelau poblogaidd The Autobiography of Henry VIII (1986), Mary Queen of Scotland and the Isles (1992), The Memoirs of Cleopatra (1997), Mary Called Magdalene (2002), Helen of Troy (2006), Elizabeth I (2011), The Confessions of Young Nero (2017), a The Splendor Before the Dark (2018). Roedd llawer o'r llyfrau hyn yn 'werthwyr gorau' y New York Times.[5][6][7][8]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod]

Ganed Margaret George yn Nashville, Tennessee. Ymunodd ei thad â Gwasanaeth Tramor yr Unol Daleithiau pan oedd hi'n bedair oed, ac roedd hi'n byw dramor yn Taiwan, Israel, a'r Almaen, cyn iddi fod yn dair ar ddeg oed. Fe'i cyflwynwyd yn ifanc i safleoedd hanesyddol y gwledydd hyn, a dysgodd y gallai fod gan chwedlau a storiau eraill eu seiliau a'u safleoedd hanesyddol.

Graddiodd o Brifysgol Tufts gyda gradd B.A. a Phrifysgol Stanford gydag M.A., ar y cyd mewn gwyddoniaeth fiolegol a llenyddiaeth Saesneg. Gweithiodd fel awdur gwyddonol am sawl blwyddyn yn y Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol, Bethesda, Maryland cyn symud i Madison, Wisconsin gyda'i gŵr.

Gweithiau dethol[golygu | golygu cod]

  • The Autobiography of Henry VIII: With Notes by His Fool, Will Somers (1986)
  • Mary Queen of Scotland and the Isles (1992)
  • The Memoirs of Cleopatra (1997)
  • Mary, called Magdalene (2002)
  • Helen of Troy (2006)
  • Lucille Lost (2006)
  • Elizabeth I (2011)
  • The Confessions of Young Nero (2017)
  • The Splendor Before the Dark (2018)

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. " absorbing, meticulous cast-of- thousands epic"—Entertainment Weekly, 5/16/97 http://www.ew.com/ew/article/0,,287864,00.html Archifwyd 2019-08-07 yn y Peiriant Wayback.
  2. "The Top 10 Historical Fiction Authors". Washington Independent. Adalwyd 11 Chwefror 2015
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12806611k. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12806611k. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. "Best Sellers". New York Times. 25 Mai 1997. Adalwyd 11 Gorffennaf 2015
  6. "Best Sellers". New York Times. 7 Gorffennaf, 2002. Adalwyd 11 Gorffennaf, 2015
  7. "Best Sellers". New York Times. 3 Medi 2006. Adalwyd 11 Chwefror 2015
  8. ""Best Sellers". New York Times. 24 Ebrill 2011. Adalwyd 11 Chwefror 2015