Marcus Antonius
Marcus Antonius | |
---|---|
Ganwyd | 83 CC Rhufain |
Bu farw | 30 CC Alexandria |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | tribune of the plebs, Magister equitum, proconsul, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, triumvir rei publicae constituendae, Conswl Rhufeinig, brenin cydweddog, moneyer |
Tad | Marcus Antonius |
Mam | Julia |
Priod | Fadia, Antonia Hybrida Minor, Fulvia, Octavia Yr Ieuengaf, Cleopatra |
Partner | Volumnia Cytheris, Glaphyra |
Plant | Antonia, Marcus Antonius Antyllus, Iullus Antonius, Cleopatra Selene II, Alexander Helios, Antonia Major, Antonia Minor, Ptolemi Philadelphws |
Gwleidydd a chadfridog Rhufeinig oedd Marcus Antonius (c. 14 Ionawr 83 CC- 1 Awst 30 CC). Fel Mark Antony, mae'n gymeriad pwysig yn nramâu William Shakespeare.
Ganed ef yn Rhufain, yn fab i Marcus Antonius Creticus. Dywedir iddo fyw'n wyllt yn ei ieuengctid, ac yn ôl Plutarch roedd mewn dyled o 250 talent (gwerth rhai miliynau o bunnau) cyn bod yn ugain oed. Bu raid iddo ffoi i Wlad Groeg, lle bu'n astudio rhethreg. Dangosodd ei fod yn arweinydd milwrol galluog mewn ymgyrch yn erbyn Aristobulus yn Iudaea, ac yna o 54 CC fel cynorthwydd i Iŵl Cesar yn ei ymgyrch i goncro Gâl. Daeth yn un o gefnogwyr amlycaf Cesar, a bu'n ddirpwy iddo yn ystod y rhyfel cartref a ddechreuodd wedi i Gesar groesi Afon Rubicon. Wedi i Gesar gymeryd meddiant o Rufain, parhaodd Antonius fel ei ddirprwy. Cyhoeddodd Cicero gyfres o ymosodiadau deifiol arno yn y Philippicau.
Ar 15 Chwefror 44 CC, yn ystod gŵyl y Lupercalia, cynigiodd Antonius goron i Cesar yn gyhoeddus. Gwrthododd Cesar y cynnig, gan ddangos nad oedd yn bwriadu dod yn frenin. Fis yn ddiweddarach, llofruddiwyd Cesar, a cyn hir bu rhyfel cartref eto, gyda Marcus Antonius yn arwain pleidwyr Cesar yn erbyn y gweriniaethwyr oedd wedi bod a rhan yn ei lofruddio. Yn 42 CC, ymladdwyd Brwydr Philippi rhwng Antonius ac Octavianus a dau o lofruddion Cesarn Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus. Mewn gwirionedd roedd dwy frwydr, gyda thair wythnos rhyngddynt. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi ar 3 Hydref, 42 CC, llwyddodd Brutus i orchfygu byddin Octavianus, ond gorchfygwyd byddin Cassius gan Marcus Antonius. Gan gredu fod Brutus hefyd wedi colli'r dydd, lladdodd Cassius ei hun. Ymladdwyd Ail Frwydr Philippi ar 23 Hydref, a gorchfygwyd Brutus gan Antonius ac Octavianus. Lladdodd Brutus ei hun, ac wedi clywed y newyddion, lladdodd ei wraig Porcia ei hun hefyd.
Ffurfiodd Antonius bartneriaeth ag Octavianus ("Augustus" yn ddiweddarach) a Marcus Aemilius Lepidus. Gofynnodd Antonius am gymorth gan Cleopatra, brenhines yr Aifft, ond gwrthododd hi ymyrryd. Teithiodd Antonius i'r Aifft i'w chyfarfod yn 41 CC, a syrthiodd y ddau mewn cariad. Penderfynodd Antonius aros yn yr Aifft am gyfnod, nes iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i Rufain. Yn fuan wedyn ganwyd dau efaill iddo ef a Cleopatra, Cleopatra Selene ac Alecsander Helios. Yn 36 CC teithiodd Antonius i'r dwyrain i ymladd yn erbyn y Parthiaid. Aeth Cleopatra gydag ef, a ganwyd eu trydydd plentyn, Ptolemi Filadelfos. Bu'r ymgyrch yn llwyddiant mawr, a dychwelodd y ddau i Alexandria.
Roedd perthynas Antonius gydag Octavianus (a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach dan yr enw Augustus), ei frawd-yng-nghyfraith, wedi dirywio erbyn hyn. Yn 33 CC, daeth diwedd ar y bartneriaeth rhyngddynt. Yn 32 CC aeth yn rhyfel rhwng Octavianus ac Antonius a Cleopatra. Ym Mrwydr Actium yn 31 CC gorchfygwyd llynges Antonius a Cleopatra gan lynghesydd Octavianus, Marcus Vipsanius Agrippa, a lladdodd Antonius ei hun. Ychydig yn ddiweddarach, lladdodd Cleopatra ei hun hefyd.
Plant
[golygu | golygu cod]- Gyda Fulvia:
- Marcus Antonius Antyllus, dienyddiwyd gan Octavianus yn 30 CC
- Iullus Antonius Creticus
- Gyda Octavia Minor, chwaer Octavianus, yn ddiweddarach Augustus:
- Antonia Major, priododd Lucius Domitius Ahenobarbus; nain yr ymerawdwr Nero
- Antonia Minor, priododd Drusus, mab Livia; mam yr ymerawdwr Claudius a nain yr ymerawdwr Caligula
- Gyda Cleopatra:
- Alexander Helios
- Cleopatra Selene II, priododd Juba II brenin Numidia ac yn ddiweddarach Mauretania
- Ptolemi Philadelphus
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Fel "Mark Antony", mae Antonius yn un o'r prif gymeriadau mewn dwy o ddramâu Shakespeare, Julius Caesar ac Antony and Cleopatra. Yn y ffilm "Cleopatra", cymerwyd rhan Antonius gan Richard Burton, gydag Elizabeth Taylor fel Cleopatra.