Neidio i'r cynnwys

MônFM

Oddi ar Wicipedia
MônFM
Ardal DdarlleduYnys Môn a Gogledd Gwynedd
ArwyddairEich Gorsaf, Eich Llais
Dyddiad Cychwyn12 Gorffennaf 2014
TonfeddFM: 96.8, 102.1 & 102.5
PencadlysLlangefni
Perchennog Cyfryngau Gwy-Môn
Webcasthttps://www.monfm.co.uk/radioplayer/
Gwefanwww.monfm.co.uk
FformatCymunedol: cerddoriaeth a siarad
IaithDwyieithog: Cymraeg a Saesneg

Gorsaf radio cymunedol dwyieithog yw MônFM sy'n gwasanaethu ardal Ynys Môn a Gogledd Gwynedd.

Ers 2025, dyma'r unig wasanaeth radio Cymraeg sy'n annibynnol ar y BBC.[1] Cynhelir yr orsaf ar sail wirfoddol, a'r cadeirydd yw Tomos Dobson.[1]

Mae'n darlledu o stiwdios yn Llangefni ar 96.8, 102.1 a 102.5 FM ac ar wefan yr orsaf. Mae trosglwyddyddion yr orsaf wedi'u lleoli yn Gwalchmai, Nebo a Penmynydd

Mae MônFM yn cynhyrchu dros 100 awr bob wythnos o raglenni cerddoriaeth a sgyrsiau, yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys newyddion lleol, chwaraeon a rhaglenni cerddoriaeth arbenigol.

Mae nhw'n darlledu bwletinau newyddion Sky News Radio bob awr gyda bwletinau traffig a thywydd lleol yn ystod rhaglenni brecwast a phrynhawn a rhaglen chwaraeon ar prynhawn dydd Sadwrn yn ystod y tymor pêl-droed.

Lawnswyd MônFM ar ddydd Iau 1 Mawrth 2012 gyda darllediad RSL 28 diwrnod i'r ardal Llangefni ar 87.9 FM, a lawnswyd y gwasanaeth llawn ar 102.5 MHz ar 12 Gorffennaf 2014, o drosglwyddydd yn Gwalchmai. Lansiwyd yr orsaf gan Albert Owen a Rhun ap Iorwerth yn ogystal â Rhys Meirion a Meinir Fflur.

Ar wahân i newyddion cenedlaethol, cyflwynir a chynhyrchir pob rhaglen gan wirfoddolwyr yn lleol neu o stwidios Llangefni.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae orsaf wedi ehangu ei chynnwys golygyddol i roi sylw ychwanegol i rannau gogleddol Gwynedd, gan gynnwys ardaloedd Bangor a Caernarfon.

Cafodd MonFM ganiatâd gan y rheolydd darlledu, Ofcom, i weithredu dau amledd FM arall o drosglwyddyddion ym Mhenmynydd ac yn Nebo, ger Amlwch.[2]

Lawnswyd y gwasanaeth ar 96.8 MHz, oddi wrth drosglwyddydd Penmynydd, ar 6 Mai 2021, gan dargedu rhannau dwyreiniol Ynys Môn a gogledd Gwynedd.[3] Lawnswyd ar 102.5 FM, oddi wrth drosglwyddydd Nebo, ar 25 Mai 2021, gan wasanaethu gogledd Ynys Môn.

Ers hynny, mae'r trosglwyddydd gwreiddiol yn Gwalchmai yn darlledu MônFM ar 102.1 FM, gan dargedu rhannau gorllewinol Ynys Môn.

Mae'r orsaf hefyd wedi ennill nifer o wobrau diwydiant, gan gynnwys gwobrau Aur am ei raglen chwaraeon byw, MônFM Sport[4], a darllediad byw o Gwyl Cefni yn Llangefni, a gwobr efydd ar gyfer Gorsaf y Flwyddyn yng Ngwobrau Radio Cymunedol.

Cyflwynwyr

[golygu | golygu cod]
  • Bob Aitken ('Country Club' ar nos Fercher)
  • Paul Anthony (Brecwast dydd Sadwrn, 'Thursday Night Love Songs' ar nos Iau)
  • Kev Bach (Brecwast dydd Llun, Mawrth, Iau a Gwener, hefyd Rheolwr Rhaglenni)
  • Brian Cook (Prynhawn dydd Llun)
  • Tom Cooke (Nos Lun, prynhawn dydd Mercher)
  • Steffan Crocker (Prynhawn dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener)
  • Nia Davies (Nos Sul)
  • Rheinallt Davies (Nos Sadwrn)
  • Rhys Edwards (Prynhawn dydd Gwener)
  • Vaughan Evans (Jiwcbocs ar fore Sadwrn)
  • Yvonne Gallienne (Nos Fawrth)
  • Emyr Gibson (Prynhawn dydd Iau)
  • Sarah Wynn Griffiths (Nos Iau)
  • Cari Hedd (Prynhawn dydd Sul)
  • Ryan McKean (MônFM Sport)
  • John Morrison (Bore Sul - rhaglen syndicâd)
  • Gwyn Owen (Bore Mawrth - Gwener, Bore Sul)
  • Terry Phipps (Bore Mawrth a Bore Mercher)
  • Chris Roberts ('The Rock Surgery')
  • Gavin Roberts (Nos Wener)
  • Dai Sinclair (Brecwast dydd Mercher, nos Fercher, bore Iau, prynhawn dydd Sul, nos Sul)
  • Dic Thomas (Bore Llun a Bore Gwener)
  • Gareth Thomas (Nos Lun)
  • Llinos Thomas (Jiwcbocs ar fore Sadwrn)
  • Meurig Thomas (Nos Fawrth a Bore Sul)
  • Malcolm Williams ('Soul on Sunday' ar nos Sul)
  • Dai Williams (Prynhawn dydd Llun a dydd Mawrth)
  • Zowie Williams (Prynhawn dydd Llun a dydd Mawrth)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Development, PodBean. "Môn FM | Rhaglen Cymru". rhaglencymru.podbean.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-05.
  2. "MônFM i ymestyn ardal ddarlledu FM – MônFM". Cyrchwyd 2021-05-07.[dolen farw]
  3. "MônFM – rwan ar 96.8 FM! – MônFM". Cyrchwyd 2021-05-09.[dolen farw]
  4. "Gwobr aur i raglen chwaraeon gorsaf gymunedol MônFM". BBC Cymru Fyw. 2019-10-31. Cyrchwyd 2021-05-07.