Lotfi A. Zadeh
Lotfi A. Zadeh | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 4 Chwefror 1921 ![]() Novkhany, Baku ![]() |
Bu farw | 6 Medi 2017 ![]() Berkeley ![]() |
Man preswyl | Unol Daleithiau America ![]() |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Pahlavi Iran, Unol Daleithiau America ![]() |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, peiriannydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | fuzzy set ![]() |
Plant | Norm Zada ![]() |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, IEEE James H. Mulligan, Jr. Education Medal, Medal Benjamin Franklin, Medal Anrhydedd IEEE, ACM-AAAI Allen Newell Award, Eringen Medal, Medal IEEE Richard W. Hamming, Richard E. Bellman Control Heritage Award, Friendship Order, Nizami Ganjavi Gold Medal, Gwobr Sefydliad 'Frontiers of Knowledge' BBVA, honorary doctorate of the University of Oviedo, ACM Fellow, Cymrodor IEEE, honorary doctorate of the University of Granada, Rufus Oldenburger Medal, AAAI Fellow, Kampé de Fériet Award, Okawa Prize, Doethuriaeth Arhydeddus Prifysgol Pierre a Marie Curie ![]() |
Mathemategydd, cyfrifiadurwr, a pheirianydd trydanol Aserbaijanaidd-Iranaidd oedd Lotfi Aliasker Zadeh (AZ:Lütfəli Rəhim oğlu Ələsgərzadə; 4 Chwefror 1921 – 6 Medi 2017). Roedd yn athro emeritws cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley o 1991 hyd ei farwolaeth. Ei gyfraniadau pwysicaf yw rhesymeg niwlog a mathemateg niwlog.[1]
Ganwyd yn Baku yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Aserbaijan, yr Undeb Sofietaidd, i fam Iddewig o Rwsia a thad Aserbaijanaidd o dras Dyrcaidd. Symudodd ei deulu i Tehran pan oedd Lotfi yn 10 oed, a chafodd ei addysg gan genhadon Presbyteraidd y Coleg Americanaidd.[2] Astudiodd beirianneg drydanol ym Mhrifysgol Tehran, ac enillodd ei radd ym 1942. Aeth ati i ennill gradd meistr o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) ym 1946, a doethuriaeth o Brifysgol Columbia ym 1949. Gweithiodd yn isddarlithydd ym Mhrifysgol Columbia o 1950 i 1957, ac athro o 1957 i 1959, yn yr adran beirianneg drydanol.
Ymunodd â'r adran beirianneg drydanol ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley ym 1959 a fe fu yn gadeirydd yr adran honno o 1963 i 1968. Dan ei arweiniad, daeth cyfrifiadureg yn rhan bwysig o faes yr adran, a bu pwyslais ar fathemateg. Canolbwyntiodd ei waith cynnar ar ddadansoddiad systemau, dadansoddiad penderfyniadau, a systemau gwybodaeth. Ym 1965 fe gyhoeddodd ei erthygl gyntaf ar setiau niwlog. Wrth i'w syniadau ddatblygu, sbardunodd chwyldro ym maes seiberneteg a chafodd ddylanwad ar amryw o bynciau gan gynnwys roboteg, uwchgyfrifiaduron, gwneuthuro lloerennau, gwybyddiaeth ac astudiaeth delweddau, ac ymchwil i wrthrychau hedegog anhysbys.
Ymchwiliodd Zadeh hefyd i ddeallusrwydd artiffisial, semanteg, damcaniaeth gyfrifiadol ar ganfyddiad, hidlo optimaidd, systemau dynamig, a rhifau-Z. Yn ystod ei yrfa, fe dderbynodd nifer fawr o anrhydeddau a gwobrau academaidd ac roedd yn aelod o fwrdd golygyddol sawl cyfnodolyn. Cyhoeddodd mwy na 200 o erthyglau, a rhagor ar y cyd ag ysgolheigion eraill. Bu farw yn Berkeley yn 96 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) E. Trillas, "Lotfi A. Zadeh: On the man and his work", Scientia Iranica Cyfrol 18, Rhifyn 3 (Mehefin 2011), tt. 574–579 doi:10.1016/j.scient.2011.05.001.
- ↑ (Saesneg) Siobhan Roberts, "Remembering Lotfi Zadeh, the Inventor of Fuzzy Logic", The New Yorker (19 Medi 2017). Adalwyd ar 19 Mawrth 2018.
- Academyddion Prifysgol Califfornia, Berkeley
- Academyddion Prifysgol Columbia
- Cyfrifiadurwyr o Aserbaijan
- Cyfrifiadurwyr o Iran
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Columbia
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Tehran
- Genedigaethau 1921
- Marwolaethau 2017
- Mathemategwyr o Aserbaijan
- Mathemategwyr o Iran
- Peirianwyr trydanol
- Pobl o Baku
- Pobl o Tehran