Llynclys

Oddi ar Wicipedia
Llynclys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlanyblodwel
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.8083°N 3.0653°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ282239 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Llynclys.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Llanyblodwel yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Fe'i lleolir ar groesffordd ar yr A483 tua milltir a hanner o'r ffin rhwng Swydd Amwythig a Powys, a thua phedair milltir i'r de o Groesoswallt. Mae ei leoliad a'i enw Cymraeg yn dangos y bu ar un adeg yn rhan o Bowys. Arosodd yn rhan o Gymru tan gyfnod y "Deddfau Uno" pan roddwyd Arglwyddiaeth Croesoswallt i Swydd Amwythig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 30 Ebrill 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato