Llewela Davies

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llewela Davies
Llewela Davies.jpg
Ganwyd Chwefror 1871 Edit this on Wikidata
Talgarth Edit this on Wikidata
Bu farw 1952 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Pianydd, Cyfansoddwr Edit this on Wikidata

Pianydd a chyfansoddwraig oedd Llewela Davies (Chwefror 18711952) a deithiodd gyda'r gantores Nellie Melba ledled y byd.[1]

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Llewela Tegwedd Davies yn Nhalgarth, ger Aberhonddu, yng Nghanolbarth Cymru.[2] Rhys Davies, ynad heddwch, oedd ei thad.[3][4] Yn 10 oed enillodd fedal a gwobr ariannol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac enillodd ysgoloriaeth i fynychu North London Collegiate School for Girls.[5] Mynychodd hefyd y Royal Academy of Music ar ysgoloriaeth John Thomas yn 1887, ac enillodd nifer o wobrau yno am gyfansoddi,[6] gan gynnwys medal y "Worshipful Company of Musicians."[7][8] Cyfeiliodd i'w chyfoeswyr, ei chyd-fyfyrwyr, droeon yn ystod ei arhosiad yno.[9] Cyn hir, graddiodd ym Mhrifysgol Llundain.[10]

Ei phrif hyfforddwr yn yr Academi Frenhinol oedd Walter Macfarren, brawd y cyfansoddwr George Alexander Macfarren a brawd-yng-nghyfraith y gyfansoddwraig Emma Maria Macfarren. Ymlith myfyrwyr nodedig eraill Macfarren roedd Agnes Zimmermann, Dora Bright, a Stewart Macpherson.[11]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg mai ei pherfformiadau mewyaf gwefreiddiol, yn ôl papurau'r cyfnod, oedd gyda Nellie Melba (llysenw a gafodd oherwydd iddi gael ei geni yn Melbourne) a chyd-deithiodd gyda hi a'i gŵr drwy sawl gwlad a chyfandir gan gynnwys Awstralia a Seland Newydd. Ar ei hôl hi y galwyd 'Peach Melba'.[12][13] Perfformiodd ddwywaith yn Three Choirs Festivalac fel cyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Perfformiodd hefyd yn y Annual Reid Concert yng Nghaeredin, yn 1899.[14] Fe'i croesawyd mewn eisteddfodau a chyngherddau bychan ledled Cymru, fel gwestai arbennig.[3]

Bu'n darlithio ym Mhrifysgol Llundain wedi iddi raddio.[10] Ei gwaith mwyaf nodedig ydy: Three Sketches (cerddorfa), pedwarawd llinynol a sonata ar gyfer y fiolin a'r piano.[13]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd y cerddor Cymreig Frederic Griffith (weithiau: 'Griffiths') yn 1898,[15][16] a threuliodd y ddau gyfnod yn Llundain wedi hynny. Bu farw ei gŵr yn 1917 a hithau yn 1952, yn Llundain.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Welsh Musicians on Tour" Evening Express (30 Rhagfyr 1897): 3.
  2. "Keeping up the National Reputation: A Brilliant Young Welsh Girl Who Has Attracted Attention as a Musician" Chicago Tribune (24 Hydref 1891): 16.
  3. 3.0 3.1 "Miss Llewela Davies: Cordial Reception at Llangranog" South Wales Echo (12 Awst 1893): 3.
  4. "Death of Mr. Rhys Davies, J. P., Brecon" South Wales Echo (March 18, 1899): 3.
  5. Frederic Griffith, ed. Notable Welsh Musicians of Today (F. Goodwen 1896): 122–123.
  6. "Miss Llewela Davies" Bruce Herald 24(2516)(October 3, 1893): 3.
  7. "Annual Prizes, Female Department" Overture: A Monthly Musical Journal 6(4)(Hydref 1893): 94–95.
  8. "A Brilliant Student" Cambridge Chronicle (Dydd Calan 1894): 11.
  9. "Invitation Students Concert: Saturday, July 1, 1893" and "Fortnightly Concerts," Overture: A Monthly Musical Journal 6(4)(October 1893): 100.
  10. 10.0 10.1 "Lady Instrumentalists" Strand Musical Magazine (1895): 91.
  11. Walter Macfarren, Memories: An Autobiography (Walter Scott Publishing 1905): 268.
  12. "Madame Melba: The Farewell Concert" The Advertiser (17 Tachwedd 1902): 6.
  13. 13.0 13.1 Henry Saxe Wyndham and Geoffrey L'Epine, eds., Who's Who in Music: A Biographical Record of Contemporary Musicians (I. Pitman & Sons 1915): 75–76.
  14. 14.0 14.1 "Annual Reid Concert 1899" Reid Concerts: Concerts at the University of Edinburgh from 1841
  15. "Forthcoming Marriage of Mr. F. Griffiths; Engaged to a Brecon Artiste" South Wales Daily Post (28 Mawrth 1898): 4.
  16. "Marriage of Llewela Davis" Scranton Republican (23 Ebrill 1898): 3. via Newspapers.comcyhoeddiad agored - am ddim, agored