Lleufer
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1944 |
Dechrau/Sefydlu | 1944 |
Lleoliad cyhoeddi | Llandysul |
Cylchgrawn Cymraeg chwarterol oedd Lleufer a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru. Roedd yn cynnwys erthyglau cyffredinol ac academaidd, adolygiadau llyfryddol, barddoniaeth a ffuglen, hysbysebion a nodiadau ar y gymdeithas. Fe'i cyhoeddwyd rhwng 1944 a 1979. Sefydlwyd The Workers’ Educational Association yn 1903 i hyrwyddo mynediad i addysg barhaus (neu "addysg am oes"). Ffurfiwyd y gangen Gymraeg gyntaf o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru yn 1907.[angen ffynhonnell]
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.