Llety'r Filiast

Oddi ar Wicipedia
Llety'r Filiast
Mathcarnedd gellog, cromlech Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.329085°N 3.845127°W Edit this on Wikidata
Map
Gofal! Ceir cromlech arall o'r un enw a elwir hefyd yn Maen y Bardd, yn yr un sir

Mae Llety'r Filiast yn gromlech a elwir yn garnedd gellog, sef gweddillion siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig, sydd wedi'i lleoli ar y Gogarth ger Llandudno yn Sir Conwy; cyfeiriad grid SH772829. [1]

Archaeoleg[golygu | golygu cod]

Gelwir y math hwn o siambr yn 'garnedd gellog hir' ac fe'i cofrestrwyd fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: CN005.

Defnyddiwyd yr heneb hon i gladdu'r meirw. Saif tua hanner ffordd i fyny'r Gogarth mewn llecyn o'r enw Maes-y-Fachrell.[2] Ceir olion siambr bumochrog ar y safle. Mae pedwar o'r meini sy'n cynnal maen clo'r siambr yn sefyll o hyd ond mae darn o'r maen clo wedi torri'n rhydd. Dros y blynyddoedd cymerwyd llawer o ddeunydd y siambr a dim ond "sgerbwd" y siambr wreiddiol sy'n weddill erbyn hyn.[3] Ceir mwynglawdd copr neolithig gerllaw a fu'n un o'r rhai mwyaf yn Ewrop.

Llên gwerin[golygu | golygu cod]

Mae Llety'r Filiast yn enw amgen am gromlech Maen y Bardd, ger Rowen yn yr un sir. Mae'r enw'n tarddu o lên gwerin, ond does dim chwedl gysylltiedig â'r heneb hon wedi goroesi. Mae enwau cromlechi eraill sy'n cynnwys yr elfennau miliast neu ast yn cynnwys Llech y Filiast (Morgannwg), Carnedd y Filiast (ger Ysbyty Ifan) a Llech yr Ast (Llangoedmor, Ceredigion). Yn chwedl Culhwch ac Olwen mae Gast Rhymni, sef merch yn rhith bleiddast, yn cael ei hela gan y Brenin Arthur. [4] Mae'r filiast yn un o ymrithiadau Ceridwen yn y chwedl Hanes Taliesin.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Data Cymru Gyfan, CADW
  2. E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, 1947), tud. 7.
  3. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 60.
  4. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (D. S. Brewer, ail arg. 1979), tud. 93.