Llenyddiaeth Walwneg

Oddi ar Wicipedia

Y corff llenyddol a gynhyrchwyd gan y Walwniaid yn eu tafodiaith, Walwneg, yw llenyddiaeth Walwneg.

Yng nghanol y 12g, ysgrifennwyd croniclau lleol a dramâu crefyddol yn Walwneg. Yn ddiweddarach, cyfansoddwyd caneuon, dramâu a libretos yn Walwneg. Sefydlwyd y Société Liègeoise de Littérature Wallonne yn 1856 i hyrwyddo llenyddiaeth Walwneg.

Cafodd sillafu a gramadeg yr iaith Walwneg eu safoni gan ysgolheigion yn yr 20g, gan greu ffurf lenyddol fodern ar Walwneg.

Llenyddiaeth ysgrifenedig cynnar[golygu | golygu cod]

Disgynnai'r Walwniaid yn bennaf o'r Belgae, llwyth Celtaidd Galaidd a roddasant ei enw i Wlad Belg. Yn ystod yr oes Rufeinig, cafodd y boblogaeth yn yr ardal a elwir heddiw yn Walonia ei Ladineiddio i raddau helaeth, yn fwy felly na'r Ffrancod. Parhaodd y boblogaeth yn ne'r ardal i siarad iaith y Gâl-Rhufeiniaid, sef ffurf ar Ladin llafar. Dros amser, datblygodd y dafodiaith leol yn un o'r langues d'oïl, ar y cyd a'r Ffrangeg, ac yn un o sawl iaith Romáwns sydd yn tarddu o Ladin. Er datblygiad yr iaith lafar yn iaith Romáwns, Lladin oedd prif iaith lenyddol Walonia o'r 9g i'r 11g, oherwydd yr honno oedd iaith yr abaty, yr unig ganolfan ddeallusol yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar.

Yr enghraifft hynaf o lên yn y langues d'oïl, neu Hen Ffrangeg, yw'r Cantilène de Sainte Eulalie (tua 900). Mae'r gwaith hwnnw yn dangos elfennau o Walwneg, Picardeg, a Champenois. Yng nghanol y 12g, ysgrifennwyd croniclau lleol a dramâu crefyddol yn Walwneg. Mae hefyd traethodau dienw yn dyddio o'r cyfnod hwnnw, gan gynnwys y gerdd alecsandrinaidd Poème moral.[1]

17eg ganrif[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd gweithiau ysgrifenedig yn nhafodieithoedd y Walwniaid yn nechrau'r 17g, yn enwedig yn ardal Liège. Enghraifft gynnar o lenyddiaeth Walwneg yw'r caniad a gyfansoddwyd yn nhafodiaith Liège tua'r flwyddyn 1620. Traddodiad yn yr 17g oedd y pasquèyes (paskeyes, paskeilles), cerddi ar bynciau lleol yn iaith y werin.[1]

18fed ganrif[golygu | golygu cod]

Ymledodd y defnydd o iaith y werin yn y 18g. Cyfansoddwyd caneuon, dramâu, a libretos yn Walwneg. Yn Liège bu'r opera gomig yn cynhyrchu sawl libreto poblogaidd, gan gynnwys Li Voyadjue di Tchaudfontaine (1757), Li Lîdjwès egagî, a Les Hypocondres, ac yno sefydlwyd y Théâtre Liégeois. Datblygodd hefyd ffurfiau megis y cramignon, barddoniaeth delynegol ar gyfer dawns, a'r Noëls, carolau ac ymgomion Nadoligaidd.[1]

19eg ganrif[golygu | golygu cod]

Dechreuodd mwy a mwy o feirdd a rhyddieithwyr Walwnaidd ysgrifennu drwy gyfrwng y Walwneg yn y 19g, ac ardal Liège oedd canolfan lenyddol yr iaith. Yno sefydlwyd y Société Liègeoise de Littérature Wallonne yn 1856 i hyrwyddo llenyddiaeth Walwneg, a bu adfywiad llenyddol yn y 1880au adeg y cylchgronau La Jeune Belgique a La Wallonie. Y prif feirdd yn yr iaith oedd Charles-Nicolas Simonon (1774–1847), François Bailleux (1817–66), a Nicolas Defrêcheux (1825–74). Cyfieithwyd hefyd nifer o weithiau i'r Walwneg, gan gynnwys La Fontaine, Ofydd, ac Horas. Blodeuai llenyddiaeth Walwneg mewn rhannau eraill o'r wlad hefyd, gan gynnwys Namur, cartref i Charles Wérotte (1795–1870) a Nicolas Bosret (1799–1876), sy'n adnabyddus am yr emyn Li bea bouket.

Édouard Remouchamps, un o ddramodwyr pwysicaf y theatr Walwneg yn y 19g.

Erbyn diwedd y 19g, trodd nifer o lenorion Walwneg at realaeth i bortreadu bywyd y werin. Ymhlith y prif feirdd oedd Joseph Vrindts (1855–1940) ac Henri Simon (1856–1939). Enwau pwysig ym myd y theatr Walwneg oedd y dramodwyr André Delchef (1835–1902) ac Édouard Remouchamps (1836–1900), awdur y gomedi fydr Tâtî l’pèriquî a berfformiwyd gyntaf yn 1885.

20fed ganrif[golygu | golygu cod]

Datblygodd ysgolheictod a thafodieitheg Walwneg yn yr 20g, a chafodd sillafu a gramadeg yr iaith eu safoni, gan greu ffurf lenyddol fodern ar Walwneg. Roedd nifer o awduron, gan gynnwys Émile Lempereur (1909–2009), ar flaen y gad yn y mudiad cenedlaetholgar Walwnaidd. Ymhlith beirdd yr iaith yn yr 20g mae Franz Dewandelaer (1909–52), Charles Geerts (1900–81), Willy Bal (1916–2013), Henri Collette (1905–81), Émile Gilliard (g. 1928), Jean Guillaume (1918–2001), Marcel Hicter (1918–79), Albert Maquet (1922–2009), Georges Smal (1928–88), a Jenny d'Inverno (g. 1926). Ymhlith y nofelwyr a'r awduron straeon byrion mae Léon Mahy (1900–65), Dieudonné Boverie (1905–91), a Léon Marquet (1919–2018). Ymhlith y dramodwyr o nod mae François Roland, Jules Evrard (1887–1968), Georges Charles, Charles-Henri Derache, François Masset, a Jean Rathmès (1909–86).

21ain ganrif[golygu | golygu cod]

Mae'r rhyngrwyd wedi creu cyfleoedd newydd i lên Walwneg yn yr 21g, er enghraifft y Wicipedia Walwneg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Walloon literature. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mai 2019.