Lleiandy Llanllugan
Math | abaty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyriw |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6106°N 3.3929°W |
Lleiandy a sefydlwyd yn negawdau olaf y 12g yn Llanllugan, cantref Cedewain, Powys, oedd Lleiandy Llanllugan. Gorweddai ym mhlwyf Llanllugan i'r de-orllewin o Lanfair Caereinion mewn cwm sy'n aros yn ddigon diarffordd heddiw. Mae'n bosibl taw ffurf ar enw'r Santes Lluan a geir yn yr enw.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyfeirir ato gan Gerallt Gymro a Dafydd ap Gwilym. Lleiandy Sistersaidd oedd Llanllugan, a sefydlwyd gan Maredudd ap Rhobert rhywbryd rhwng 1170 a 1190, efallai. Fel oedd yr arfer dan y drefn fynachaidd, rhoddwyd y lleiandy dan oruchwyliaeth Abaty Ystrad Marchell. Roedd Llanllugan yn un o ddau leiandy Sistersiaidd yng Nghymru, gyda Llanllŷr (Ceredigion).
Cymuned fechan oedd Llanllugan, fel y gweddill o leiandai Cymru'r Oesoedd Canol. Gwisgoedd gwyn oedd gan y lleianod, yn ôl Dafydd ap Gwilym, sy'n cyfeirio atynt fel "rhai lliwgalch". Digwydd mewn cywydd gan y bardd sy'n anfon llatai (negesydd serch) at un o'r lleianod (y glochyddes, sydd eisoes yn gyfarwydd â charu) i'w pherswadio i gwrdd â'r bardd mewn coedwig:
- O caf innau rhag gofal
- O'r ffreutur dyn eglur dâl,
- Oni ddaw er cludaw coed,
- Hoywne eiry, honno erod —
- Da ddodrefn yw dy ddeudroed —
- Dwg o'r côr ddyn deg i'r coed,
- Câr trigain cariad rhagor;
- Cais y glochyddes o'r côr —
- Cais frad ar yr Abades —
- Cyn lleuad haf, ceinlliw tes,
- Un a'i medr, einym adail,
- A'r lliain du, i'r llwyn dail.
Pan ddiddymwyd y mynachlogydd rhwng 1534 a 1536, cafwyd dim ond tair o leianod yno. Ni wyddom faint o leianod fu yno pan oedd ar ei anterth, ond mae'n annhebygol y bu mwy na thua dwsin yn trigo yno ar unrhyw un adeg. Yn 1337 gwnaethpwyd asesiad sy'n dangos fod pedair lleian ac un abades yno.
Mae eglwys y lleiandy wedi goroesi fel eglwys plwyf Llanllugan, sef Eglwys y Santes Fair. Ceir ffenestr liw odidog yno sy'n dyddio i ddiwedd y 15g. Mae'n portreadu lleian (yr abades efallai) neu noddwraig. Mae lleoliad adeiladau'r gwfent ei hun yn ansicr ond mae'n bosibl eu bod ar y ddôl 200 m i'r de o'r eglwys.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Jane Cartwright, Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Eglwys y Santes Fair, Llanllugan Archifwyd 2015-09-12 yn y Peiriant Wayback ar wefan Ymddiriedolaeth Archaeoleg Clwyd-Powys