Lluan

Oddi ar Wicipedia
Lluan
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
Man preswylLlanllugan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd5 g Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
PriodGabrán mac Domangairt Edit this on Wikidata
PlantÁedán mac Gabráin Edit this on Wikidata

Santes o'r 5g oedd Lluan ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1]

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Dywedir iddi briodi â'r tywysog Gafran ap Dyfnwal Hen o'r Hen Ogledd ac iddynt gael mab, Áedán mac Gabráin (neu 'Aeddan fab Gafran'). Cyfeirir ato yn y Trioedd fel bradwr am iddo ochri gyda'r Eingl-Sacsoniaid.[2] Daeth yn frenin ar Sgotiaid Dál Riada (tua 573-608). Yn ôl y traddodiad Cymreig, ffoes Aeddan gyda'i fam i Ynys Manaw ar ôl Brwydr Arfderydd.

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Ceir Capel Llanlluan rhwng Llanarthne a Llandybie yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r y gair llugan yn enw Llanllugan, Powys, yn ffurf ar yr enw Lluan. Sefydlwyd Llanllugan ganddi, llan a goroesodd tan y 12g[3] pan trowyd yn leiandy gan y Sistersiaid. Dwedir fod Enoc, abad cyntaf mynachdy Sistersiaid Ystrad Marchell wedi priodi un o 'leianod' Llanllugan a bu cysylltiad agos rhwng y ddau le hyd at y Diwygiad Mawr.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, T.T. 1977, The daughters of Brychan, BrycheiniogXVII
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. new. 1991).
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001).