Lewis Davies (uwchfrigadydd)

Oddi ar Wicipedia
Lewis Davies
Ganwyd1777 Edit this on Wikidata
Llanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mai 1828 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethswyddog milwrol Edit this on Wikidata

Milwr o Gymro a gyrhaeddodd reng Uwchfrigadydd yn y Fyddin Brydeinig oedd Lewis Davies (1776[1] neu 177710 Mai 1828).[2]

Roedd yn fab i John Davies o'r Crugiau, Llanbadarn-fawr, Aberystwyth. Ymunodd â'r fyddin ym 1791.[2] Daeth yn Lefftenant yn yr 31ain Gatrawd y Traed ym 1794 a gwasanaethodd dan Syr Ralph Abercrombie yn India'r Gorllewin ym 1795,[3] a chafodd ei anafu yn ystod Brwydr St. Lucia ym 1796. Dyrchafwyd yn Gapten y flwyddyn honno, a daeth yn Uwchgapten yn y 36ain Gatrawd y Traed ym 1800. Brwydrodd yn yr Iseldiroedd dan Ddug Efrog, ar arfordir Ffrainc dan Syr John Pulteney, a tri gwaith ym Môr y Canoldir. Ym 1806 brwydrodd yn Hanofer dan yr Arglwydd Cathcart, ac yna gyda Dug Wellington ym Mhortiwgal, gyda Syr John Moore yn Sbaen, a gyda'r Arglwydd Chatham yn Vlissingen (Flushing). Erbyn 1812 roedd yn Gyrnol Mygedol yn rheoli'r 36ain Gatrawd dan Ddug Wellington, ac enillodd glod arbennig ym Mrwydr Salamanca ym 1812.[4]

Priododd yr etifeddes Jane Davies, merch Matthew Davies Cwmcynfelin, yn Llanbadarn-fawr ym 1801.[1] Cafodd dri mab, Matthew Davies (ganwyd 1801), Lewis Charles (g.1803), a John Maurice, ac un ferch, Jane Anne (g.1805). Am y mwyafrif o'i briodas bu cartref Lewis Davies yng Nghwmcynfelin, ond ym 1822 a 1824 (pan oedd yn Gyrnol) bu'n rhentu Plas Penglais o Roderick Richardes. Ymddeolodd ar hanner cyflog ar ddiwedd 1814, o bosib o ganlyniad i anaf. Gwnaed yn Gydymaith y Baddon ym 1815, a chafodd ei ddyrchafu'n uwchfrigadydd ar 27 Mai 1825.[4]

Adeiladodd Lewis Davies Blas Tan-y-bwlch ym mhlwyf Llanychaiarn ger Aberystwyth ym 1825.[5] Bu farw yno ym 1828 yn 51 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) A history of Tanybwlch Estate, Aberystwyth. Ceredigion : Journal of the Cardiganshire Antiquarian Society - Cyfrol 14, rhif 1, t. 39 (2001). Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2  DAVIES, LEWIS (1777 - 1828). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.
  3. Lewis Davies yn Enwogion Ceredigion ar Wicidestun
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) A history of Tanybwlch Estate, Aberystwyth. Ceredigion : Journal of the Cardiganshire Antiquarian Society - Cyfrol 14, rhif 1, t. 40 (2001). Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.
  5. (Saesneg) Plas Tanybwlch mansion's secrets. BBC (21 Hydref 2009). Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.