Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)
(Ailgyfeiriad oddi wrth Lewis Davies (llenor))
Jump to navigation
Jump to search
Lewis Davies | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mai 1863 ![]() Hirwaun ![]() |
Bu farw | 18 Mai 1951 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | awdur plant ![]() |
Awdur llyfrau Cymraeg i blant o Forgannwg oedd Lewis Davies (18 Mai 1863 – 18 Mai 1951).[1]
Bywyd a gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed Davies yn yr Hirwaun, ger Aberdâr yn 1863. Roedd yn athro ysgol yn Y Cymer am ran haelaeth ei yrfa ond dechreuodd fel gwas fferm a gweithiodd am gyfnod yng ngwaith haearn Crawshay yn yr Hirwaun hefyd.
Ysgrifennodd bedair nofel i blant. Lleolir y nofelau antur hyn yn ardal lofaol De Cymru ac fe'u nodweddir gan y darlun cofiadwy a geir ynddynt o fywyd y glowyr yno ar droad y 19g. Defnyddia'r awdur dafodiaith y Cymoedd ac mae hynny'n ychwanegu at ddiddordeb ei waith. Ef yw awdur Bargodion Hanes hefyd, cyfrol o straeon rhamantaidd am ddigwyddiadau yn hanes Cymru.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Nofelau plant[golygu | golygu cod y dudalen]
- Lewsyn yr Heliwr (1922)
- Daff Owen (1924)
- Wat Emwnt (1928)
- Y Geilwad Bach (1929)
Straeon[golygu | golygu cod y dudalen]
- Bargodion Hanes (1924)
- Ystorïau Siluria
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ DAVIES, LEWIS (1863 - 1951). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.
Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mairwen a Gwynn Jones, 'Lewis Davies (Y Cymmer)', Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983), tt. 129-31.