Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lewis Davies
Ganwyd18 Mai 1863 Edit this on Wikidata
Hirwaun Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mai 1951 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur plant Edit this on Wikidata

Awdur llyfrau Cymraeg i blant o Forgannwg oedd Lewis Davies (18 Mai 186318 Mai 1951).[1]

Bywyd a gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Davies yn yr Hirwaun, ger Aberdâr yn 1863. Roedd yn athro ysgol yn Y Cymer am ran haelaeth ei yrfa ond dechreuodd fel gwas fferm a gweithiodd am gyfnod yng ngwaith haearn Crawshay yn yr Hirwaun hefyd.

Ysgrifennodd bedair nofel i blant. Lleolir y nofelau antur hyn yn ardal lofaol De Cymru ac fe'u nodweddir gan y darlun cofiadwy a geir ynddynt o fywyd y glowyr yno ar droad y 19g. Defnyddia'r awdur dafodiaith y Cymoedd ac mae hynny'n ychwanegu at ddiddordeb ei waith. Ef yw awdur Bargodion Hanes hefyd, cyfrol o straeon rhamantaidd am ddigwyddiadau yn hanes Cymru.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nofelau plant[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Lewsyn yr Heliwr (1922)
  • Daff Owen (1924)
  • Wat Emwnt (1928)
  • Y Geilwad Bach (1929)

Straeon[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bargodion Hanes (1924)
  • Ystorïau Siluria

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mairwen a Gwynn Jones, 'Lewis Davies (Y Cymmer)', Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983), tt. 129-31.