Daff Owen

Oddi ar Wicipedia
Daff Owen
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurLewis Davies Edit this on Wikidata
CyhoeddwrHughes a'i Fab Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1924 Edit this on Wikidata
Genrenofel antur, llenyddiaeth plant Edit this on Wikidata

Nofel antur i fechgyn gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)[1] yw "Daff Owen".[2] Bu'r nofel yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol, Yr Wyddgrug, 1923. Cyhoeddwyd y nofel gan Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1924. Mae'r stori yn ymwneud â hanes bachgen o'r ardal wledig yn Sir Frycheiniog sy'n cyffinio ag ardal lofaol cymoedd y de, sy'n gwneud ei ffortiwn yn Rhuthr Aur Klondike (1897-1899).

Mae llawer o'r darnau sgwrs yn y nofel yn driw i dafodiaith cymoedd y de ar droad y 19 / 20 G; gan hynny nid stori ddifyr yn unig yw Daff Owen, mae hefyd yn gofnod iaith gwerthfawr.

Mae trawsgrifiad o'r llyfr ar gael ar Wicidestun ac mae modd darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Wiki Bookreader.

Trosolwg[golygu | golygu cod]

Mae'r nofel yn agor trwy ein cyflwyno i Dafydd (Daff) Owen, bachgen ysgol tua 12 oed, ei gyfaill pennaf yn yr ysgol Glyndŵr (Glyn) Jones a'i athro ysgol Sargeant Foster. Daff yw unig blentyn gwraig weddw, ail wraig glöwr o'r Rhondda, a fu farw cyn fo Daff yn ei gofio. Mae Glyn yn fachgen direidus sydd wastad yn mynd i drwbl. Mae Sargeant Foster yn gyn milwr a gollodd ei fraich dde wrth wasanaethu ei Frenhines a'r Ymerodraeth, sy'n dysgu plant Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg, yn eu drilio fel milwyr ac yn hoff o ddyfynnu Shakespeare. Wedi adrodd rhai o droeon trwstan y plant yn yr ysgol, daw hanes am farwolaeth sydyn mam Daff, ychydig cyn ei ben-blwydd yn 14 oed (oedran gadael ysgol ar y pryd) gan ei adael yn amddifad. Mae'n cael ei fagu gan gyfaill teuluol Shams y Gof, hyd iddo gyrraedd ei 14 oed a phenderfynu ceisio am waith yn y lofa lle bu ei dad yn gweithio yng Nghwm Rhondda.

Mae ei gyd weithwyr yn y lofa yn aelodau o gorau meibion y deheudir ac yn rhan o "gythraul canu" y cyfnod. Bu cystadlu brwd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pontypridd 1893 i weld pa gorau meibion byddai'n cael eu hystyried yn gymwys i gynrychioli'r henwlad yn Eisteddfod Ffair y Byd yn Chicago yn hwyrach yn y flwyddyn. Bu côr cydweithwyr Daff yn un o'r rai llwyddiannus. Yn y cyfamser mae hanner frawd Daff, mab o briodas gyntaf ei dad, sy'n farsiandwr llwyddiannus yn Winnipeg, Canada yn danfon llythyr i gydymdeimlo â Daff am gollei ei fam a chynnig lle iddo i weithio i'w gwmni. Er mwyn caffael tocyn iddo i groesi'r Iwerydd ar gost y côr , mae ei gyfeillion yn ei benodi yn "dirpwy ysgrifennydd y côr". Wedi dod i'r brig yn yr eisteddfod mae'r côr yn ymadael yn ôl i Gymru gan adael Daff i wneud ei ffordd i Ganada i gyfarfod a gweithio i'w hanner frawd. Wedi cyrraedd masnachdy ei frawd mae'n caffael bod ei frawd wedi marw ychydig ynghynt a bod ei chwaer yng nghyfraith yn credu ei fod yn dwyllwr sydd am ei thwyllo allan o etifeddiaeth ei diweddar ŵr. Mae'r chwaer yng nghyfraith yn dangos y drws i Daff gan ei adael yn ddieithryn tlawd mewn gwlad estron.

Heb ddigon o arian i dalu am docyn llong adref, mae Daff yn penderfynu chwilio am waith. Mae'n aflwyddiannus i gychwyn, ond ar ôl hir chwilio mae'n cael swydd yn cario sachau o flawd mewn warws. Ar ôl gweithio yn y warws am rai misoedd mae o'n mynd yn sâl efo peswch a diffyg anadl. Mae meddyg yn egluro mae anadlu blawd yw achos ei salwch ac os oedd am fyw bod rhaid iddo roi gorau i'r gwaith blawd a byw ar y paith am o leiaf blwyddyn. Mae cyd-letywyr yn dweud mai British Columbia yng Ngorllewin eithaf Canada yw'r lle iachaf i fyw yn y wlad. Er bod mil o filltiroedd rhwng Winnipeg a British Columbia mae Daff yn penderfynu ceisio teithio yno.

Cynllun Daff yw defnyddio ei ychydig arian i gael tocyn trên i fynd cyn belled i'r gorllewin a bo modd ac wedyn i wneud gwaith amaethyddol ar y paith i ennill digon i wneud gweddill y daith. Mae'r cynllun yn methu, gan ei fod yn methu cael gwaith sefydlog i'w galluogi i gynilo. Wrth chwilio am waith ar fferm mae'n cwrdd â chrwydryn sy'n dangos iddo sut i sleifio ar drên a chael ei gludo am ddim. Sleifiodd Daff ar drên, ond ar ôl rhai oriau canfuwyd ei guddfan gan giard, a chafodd ei daflu oddi ar y trên, ychydig i'r dwyrain o'r Rockies i fyw neu i farw yn y diffeithwch. Heb ddewis arall mae o'n dechrau cerdded, gan ddilyn y rheilffordd, tuag at y mynyddoedd.

Roedd rhannau o'r rheilffordd wedi ei orchuddio gan nifer o siediau eira i amddiffyn y cledrau rhag cwymp eira o'r mynyddoedd. Yng nghanol un o'r siediau eira mae Daff yn gweld arth fawr ddu yn rhwystro ei ffordd. Mae'r arth yn ddechrau ei ymlid ef. Mae Daff yn rhedeg nerth ei draed, yn dringo pileri'r sied ac yn rhedeg ar hyd ei nenfwd ar arth ar ei ôl pob cam o'r ffordd. Mae Daff yn gweld trên yn ymnesáu. Mae'n chwifio ei freichiau mewn ymgais aflwyddiannus i dynnu sylw'r gyrrwr. Mae Daff yn chwifio ei ddwylo yn cynddeiriogi'r arth sydd yn rhuthro ato heb weld bod trên yn dŵad. Mae'r arth yn cael ei daro'n gelain gan y trên. Mae'r trên yn stopio ac mae ei swyddogion yn dod i archwilio'r arth. Mae Daff yn dod i lawr o nenfwd y sied a rhwng blino a braw mae'n llewygu o flaen y swyddogion. Mae'r swyddogion y cymryd piti ar Daff druan gan ddweud eu bod am fynd i chwilio i weld os oedd rhagor o eirth yn y cyffiniau; gan roi cyfle iddo sleifio i un o wagenni'r trên. Mae'r trên yn stopio mewn lle tawel ychydig filltiroedd i ffwrdd o ben ei thaith yn Vancouver. Mae swyddogion y trên yn dweud nad oes modd iddynt ei gario dim pellach heb fynd i drafferth efo eu cyflogwyr ac yn rhoi gwybod iddo fod pentref gerllaw lle caiff geisio cardod.

Wrth gerdded at Frazer's Hope, y pentref gerllaw, mae Daff yn gweld hogan ifanc ar y ffordd ac yn ei holi hi am y lle. Wrth iddynt siarad mae Jessie, yr hogan, yn canfod bod Daff yn Gymro Cymraeg. Mae un o'i chymdogion hi yn Gymraes o Ddowlais, syn hiraethu am yr henwlad a'r heniaeth ac yn cael Jessie i ganu tonnau Cymreig iddi ar y piano i atgoffa hi o'i chartref. Mae Jessie yn mynnu bod Daff yn mynd adref efo hi er mwyn iddi gael ei gyflwyno i Mrs Jones ei chymydog. Mae Mrs Selkirk, mam Jessie, yn rhoi bwyd, dŵr ymolchi a siafio, dillad glan a gwely i Daff. Y bore trannoeth mae Daff yn cael ei gyflwyno i Mrs Jones. Mae o'n gwario gweddill y dydd yn siarad Cymraeg efo Mrs Jones ac yn ei diddanu hi efo caneuon Cymraeg i gyfeiliant piano Jessie. Ar ôl aros am bedwar diwrnod mae Daff yn penderfynu mynd i Vancouver i chwilio am waith. Wrth ymadael mae'n addo bod yn ymwelydd cyson. Yn Vancouver mae Daff yn ceisio gwaith mewn siop. Roedd perchennog y siop yn adnabod ei hanner frawd yn Winipeg ac yn cyflogi Daff yn syth. Mae Daff yn dod yn aelod amlwg o'r gymdeithas Gymraeg yn Vancouver a gweddill British Columbia. Ar ôl gweithio yn y siop yn Vancouver am ddwy flynedd bu farw'r perchennog. Gan nad oedd Daff yn hoff o berchennog newydd y siop mae'n rhoi'r gorau i'r gwaith ac yn penderfynu ymuno a'r rhuthr aur y Klondike a oedd newydd gychwyn.

Doedd y daith o Vancouver i'r Yukon ddim yn un hawdd. Ar ôl mordaith i Dyea yn Alaska bu'n rhaid tramwyo Llwybr Chilkoot, llwybr masnach Tlingit dros Fynyddoedd yr Arfordir, cyn dechrau eu taith i'r meysydd aur o amgylch Dinas Dawson, Yukon, tua 800 km (500 milltir) i ffwrdd.

Wedi cyrraedd Dyea clywodd Daff nad oedd y llywodraeth yn caniatáu i neb fentro i'r Klodyke heb fod ganddo ddigon o ymborth i bara'r gaeaf. Gan nad oedd gan Daff digon roedd o'n gorfod derbyn yn drwm galon nad oedd fawr o ddewis ganddo ond i droi yn ôl i Vancouver yn waglaw. Daeth ar draws dau Americanwr o deuluoedd da oedd wedi penderfynu anturio am aur yn syth o'r brifysgol. Roedd ganddynt ddigon o fwyd ond dim o'r bôn braich i'w gario dros y mynydd. Gan fod Daff wedi hen arfer cario sachau trwm o'i gyfnod yn y warws blawd mae o'n cytuno i weithio fel cariwr i'r ddau am gyflog.

Brodorion cynhenid y diriogaeth oedd y mwyafrif o'r cludwyr nwyddau. Ar un o'i deithiau cario mae Daff yn dod o hyd i Indiad o'r enw Red Snake wedi cael damwain ac wedi torri esgyrn. Mae Daff yn rhoi cymorth iddo fynd i le diogel i ddisgwyl aelodau o'i dylwyth i gyrchu ef yn ôl i'w camp. Wedi gweld pa mor galed bu Daff yn gweithio iddynt a deall byddai angen un a gallu corfforol a'r wybodaeth angenrheidiol i gloddio ar ben y daith mae'r Americanwyr yn gofyn i Daff i ymuno a'u menter hwy i ganfod aur fel partner. Mae'r tri gŵr ifanc yn gyd deithio'r llwybr hir llawn peryglon i gyrraedd dinas Dawson a'r meysydd aur. Wedi cyrraedd y meysydd aur mae'r tri yn cael anhawster i ganfod claim dda i'w gloddio am aur.

Wrth gerdded yn Dawson rhyw ddydd mae Daff yn ail gyfarfod a Red Snake, yr Indiad a achubodd. Mae Red Snake yn dweud wrtho fod ei fab White Cloud yn gwybod am ardal newydd, rhyw deng milltir i ffwrdd, a oedd yn addo cyfoeth mawr. Mae'r ddau frodor a Daff yn gwneud archwiliad o'r lle a chanfod ei fod yn lle addawol, sy'n ddigon mawr i gynnal pum claim. Mae Red Snake, White Cloud, Daff a'r ddau Americanwr yn gwneud claim yr un. Ar ôl gweithio ei claim am flwyddyn roedd gan Daff $20,000 yn y banc. Er bod ei bedwar cyfaill wedi penderfynu dal at y gwaith am o leiaf blwyddyn arall, roedd Daff yn teimlo hiraeth am ei dair cyfeilles yn Frazer's Hope a gan wybod bod ganddo hen ddigon i ddechrau busnes yn Vancouver mae'n penderfynu dychwelyd cyn daw'r gaeaf.

Wedi cyrraedd yn ôl i Vancouver mae Daff yn prynu siop fawr brysur am $5,000 gydag addewid o gael meddiant arni ymhen 3 mis. Wedi taro'r fargen mae'n mynd ar ymweliad i Frazer's Hope ac yn ofyn llaw Jessie mewn priodas, mae hi'n cytuno. Wedi priodi ond cyn cymryd meddiant a'i fenter newydd mae'n mynd a'i briod i Gymru i gyfarfod a'i hen ffrindiau. Mae'r cwpl yn mynd i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd:

Ac ar Ddydd y Cadeirio, pan alwyd "Y Cymry oedd ar wasgar" i fyny i'r llwyfan, nid oedd neb yn cynrychioli Canada yn fwy llawn eu calon na Daff, a'r eneth a gyfarfu ag ef ar yr heol wrth Frazer's Hope.

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

Mae testun y beirniadaethau yn orgraff y cylchgronau

Dyma feirniadaeth y Cylchgrawn "Cymru" o'r nofel:[3]

Mae'r nofel yn un dda, ond teimlir yr ymdrechir gormod ynddi, ac nis gellir ei galw yn llwyddiant hollol. Nid yw yn un peth na'r llall. Yr adran wannaf, efallai, ydyw yr adran a ddywed hanes bachgendod Daff Owen, yr adran orau honno a drin â bywyd y De. Pan yr â Daff i'r America, â i le sydd yn amlwg allan o brofiad yr awdur, a phan y cyrhaedda y Klondyke, mae mewn gwlad sydd y tu allan i amgyffred yr awdur.

Barn "Y Llenor" oedd:[4]

Y mae'r nofel antur hon yn sicr o beri i lawer bachgen losgi goleu pan y dylai fod ynghwsg. Nid normal unrhyw fachgen a all—heb orfod—ddodi'r llyfr o'i law cyn ei orffen, gan mor lawn ydyw o anturiaethau cyffrous. Y mae hanes Daff Owen yng Nghwm Rhondda yn ddiddorol dros ben, ond wedi iddo gyrraedd Canada, daw cymaint o anturiaethau i'w ran nes yw'n gamp ei adael—ar draws Canada fel hobo, ei daflu o'r trên, ei ymlid gan arth, myned trwy'r Chilcoot Pass a Rapids yr Yukon a'u peryglon aml, a helynt bywyd y cloddiwr aur yn y Klondyke, onid yw hyn yn ddigon i ddenu unrhyw fachgen?

Darluniau[golygu | golygu cod]

Mae'r llyfr yn cynnwys chwe ysgythriad o ddarluniau gan Wilfred Mitford Davies[5]

Penodau[golygu | golygu cod]

Er mae dim ond tua 135 o dudalennau testun sydd yn y llyfr, er mwyn hwyluso'r darllenydd ifanc mae wedi ei rannu i 43 o benodau byr.

Mae sillafiad y penodau yn orgraff wreiddiol y testun

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. DAVIES, LEWIS; 1863 - 1951), nofelydd, hanesydd lleol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 3 Tachwedd 2022
  2. Davies, Lewis (1924). Daff Owen: chwedl antur i fechgyn. Wrecsam: Hughes a'i Fab.
  3. ab Owen Edwards, Ifan (1925). "Llyfrau a Llenorion". Cymru 68: 160. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1370548/153#?xywh=-611%2C235%2C4298%2C3866.
  4. "Daff Owen". Y Llenor (Caerdydd: Y Cwmni Cyhoeddi Addysgol) Cyf. 3, Rh. 1-4,: 282. 1924. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1319198/1319779/280#?xywh=-217%2C1622%2C2414%2C1592.
  5. DAVIES, WILFRED MITFORD (1895 - 1966), arlunydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 3 Tachwedd 2022