Lewis Bayly
| Lewis Bayly | |
|---|---|
Clawr The Practice of Piety (1611) | |
| Ganwyd | 1565 Caerfyrddin |
| Bu farw | 26 Hydref 1631 Bangor |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | athronydd, ysgrifennwr, diwinydd, offeiriad Anglicanaidd |
| Swydd | Esgob Bangor |
| Priod | Anne Bagenal |
| Plant | Nicholas Bayly |
Clerigwr ac awdur o Gymru oedd Lewis Bayly neu Lewis Bayley (bu farw 26 Hydref 1631).[1][2] Roedd yn Esgob Bangor o 1616 hyd 1631.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Nid oes sicrwydd ymhle y cafodd ei eni; efallai Caerfyrddin yn ôl Y Bywgraffiadur Cymreig.[3] Graddiodd o Goleg Exeter, Rhydychen, a daeth yn ficer Shipton-on-Stour, Swydd Gaerwrangon yn 1597, ac wedyn Evesham yn 1600, lle daeth hefyd yn brifathro'r ysgol ramadeg. Apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1616.
Roedd yn gyfaill mawr i Syr John Wynn o Wydir, er iddynt ffraeo ar y dechrau pan geisiodd Bayly gyfyngu dylanwad yr uchelwr pwerus.
Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Practice of Piety (1611), llyfr defosiynol hynod o boblogaidd a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Rowland Vaughan o Gaergai fel Yr Ymarfer o Dduwioldeb yn 1630. Rhoddodd gefnogaeth i gyhoeddi Geiriadur John Davies, Mallwyd (1632).
Etifeddodd ei ŵyr Henry Bayly (1744-1812) ystâd Plas Newydd, Môn.
| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, Josiah Thomas (1867). . Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I. Aberdâr: J T Jones a'i fab. t. 22.
- ↑ "Bayly, Lewis (c. 1575–1631), bishop of Bangor and devotional writer". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/1766. Cyrchwyd 2023-03-11.
- ↑ "BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-03-11.