Evesham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Evesham
Evesham Abbey Almonry.jpg
Mathtref, plwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlEof Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Wychavon
Gefeilldref/iDreux Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerwrangon
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaAlcester Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.09°N 1.95°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04010391 Edit this on Wikidata
Cod OSSP0343 Edit this on Wikidata
Cod postWR11 Edit this on Wikidata
Map

Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Evesham.[1] Fe'i lleolir rhwng Caerwrangon a Stratford-upon-Avon, ar lan Afon Avon, sy'n llifo trwy'r Vale of Evesham. Mae Caerdydd 108.2 km i ffwrdd o Evesham ac mae Llundain yn 142.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caerwrangon sy'n 21.6 km i ffwrdd.

Mae'n dref farchnad gyda thyfu llysiau a ffrwythau yn bwysig i'r economi.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 23,428.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymladdwyd Brwydr Evesham ar 4 Awst 1265; lladdwyd Simon de Montfort yno, cynghreiriad Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Yma hefyd roedd Abaty Evesham, un o'r rhai mwyaf yn Ewrop yn ei gyfnod: dim ond Clochdy'r Abad Lichfield sy'n aros. Dywedir i Abaty Evesham gael ei sefydlu gan Sant Egwin, trydydd Esgob Caerwrangon. Penodwyd y Cymro Lewis Bayly, awdur The Practice of Piety (1611), yn ficer Evesham yn 1600, lle daeth hefyd yn brifathro'r ysgol ramadeg; apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1616.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 4 Gorffennaf 2020
  2. City Population; adalwyd 19 Mai 2019


WorcsCoatArms.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerwrangon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.