Karen Blixen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Karen Blixen
Karen Blixen cropped from larger original.jpg
Ffugenw Tania Blixen, Isak Dinesen Edit this on Wikidata
Ganwyd Karen Christentze Dinesen Edit this on Wikidata
17 Ebrill 1885 Edit this on Wikidata
Rungstedlund Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Medi 1962 Edit this on Wikidata (77 oed)
Rungstedlund Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Denmarc Denmarc
Galwedigaeth Ysgrifennwr, hunangofiannydd, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Out of Africa, Babette's Feast Edit this on Wikidata
Arddull rhamantiaeth-newydd, ffuglen gothig, realaeth hud-a-lledrith Edit this on Wikidata
Tad Wilhelm Dinesen Edit this on Wikidata
Mam Ingeborg Dinesen Edit this on Wikidata
Priod Bror von Blixen-Finecke Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Beirniaid Daneg ar gyfer Llenyddiaeth, Gwobr Tagea Brandt Rejselegat, Ingenio et Arti, Medal Holberg, De Gyldne Laurbær Edit this on Wikidata
Gwefan http://karenblixen.com Edit this on Wikidata
Llofnod
Isak Dinesen signature.jpg

Awdures o Ddenmarc oedd y farwnes Karen Christenze von Blixen-Finecke neu fel arfer, Karen Blixen, (17 Ebrill 1885 - 7 Medi 1962) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a hunangofiannydd. Ysgrifennai yn y Ddaneg a'r Saesneg; defnyddiai'r enw-awdur 'Isak Dinesen' ar lyfrau a gyhoeddwyd yn y gwledydd Almaeneg eu hiaith, ac ar adegau defnyddiai 'Osceola' a 'Pierre Andrézel'.

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Out of Africa sy'n fywgraffiad o'r cyfnod pan roedd yn byw yn Cenia, a Babette's Feast; troswyd y ddau lyfr ar gyfer y sgrin mawr. Derbyniodd y ddwy ffilm, hefyd Wobr yr Academi. Yn Denmarc mae'n nodedig am ei chyfrol 'Saith Chwedl Gothig' (Syv Fantastiske Fortællinger; 1934).

Ystyriwyd Blixen sawl tro am Wobr Lenyddol Nobel.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Karen Dinesen ym mhlasty Rungstedlund, gogledd Copenhagen ar 17 Ebrill 1885 a bu farw yno hefyd; fe'i claddwyd yn Rungstedlund. Roedd ei thad, Wilhelm Dinesen (1845-1895), yn awdur, swyddog y fyddin o deulu a oedd yn dirfeddiannwyr cefnog yn ardal Jutland a oedd â chysylltiad agos â brenhiniaeth Denmarc, yr eglwys a gwleidyddiaeth geidwadol. Daeth ei mam, Ingeborg Westenholz (1856-1939), o deulu o fasnachwr bourgeois cyfoethog. Karen Dinesen oedd yr ail hynaf mewn teulu o dair chwaer a dau frawd. Tyfodd ei brawd iau, Thomas Dinesen, i ennill Croes Victoria yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[1][2][3] [4][5][6][7]

Dylanwadwyd ar y Dinesen ifanc gan ffordd hamddenol ei thad a'i gariad at yr awyr agored. Ysgrifennodd drwy gydol ei oes a daeth ei hunangofiant, Boganis Jagtbreve (Llythyrau o'r Helfa) yn glasur bach yn llenyddiaeth Daneg. Rhwng Awst 1872 a Rhagfyr 1873, roedd William wedi byw ymhlith Indiaid Chippewa yn Wisconsin, a thadogodd ferch gan un o'r indiaid. Ar ôl iddo ddychwelyd i Ddenmarc, dioddefodd o syffilis a arweiniodd at gyfnodau o iselder ysbryd dwfn. Er hyn, bu iddo dadogi merch gan y forwyn Anna Rasmussen, gan dorri ei addewid i fod yn ffyddlon i'w wraig. Crogodd ei hun ar 28 Mawrth 1895 pan oedd Karen bron yn ddeg oed.

Yn wahanol i'w brodyr, a fynychodd yr ysgol, cafodd ei haddysgu gartref gan ei mam-gu o ochr ei mam, a'i modryb Mary B. Westenholz, a fagodd hi yn nhraddodiad cadarn yr Undodiaid. Dylanwadwyd ar Dinesen gan Fodryb Bess, fel y galwai Westenholz. Roedd eu trafodaethau'n fywiog, eang a thwfn ar hawliau merched a'r berthynas rhwng dynion a merched.

Ym 1898, treuliodd Dinesen a'i dwy chwaer flwyddyn yn y Swistir, lle dysgodd siarad Ffrangeg. Yn 1902, aeth i ysgol gelf Charlotte Sode yn Copenhagen cyn parhau â'i hastudiaethau yn Academi Celfyddydau Cain Brenhinol Denmarc, o dan Viggo Johansen o 1903 i 1906. Yn ei chanol-oed, ymwelodd hefyd â Pharis, Llundain a Rhufain.

Bu'n briod i farwn Bror von Blixen-Finecke. Roedd Aage Westenholz (1859–1935) yn ewyrth i'r ddau ohonynt, ac awgrymodd y gallent sefydlu fferm goffi yn Siam, a buddsoddodd yn y fenter: 150,000 Coron Daneg. Yn gynnar ym 1913, gadawodd Bror Blixen-Finecke i Kenya. Dilynwyd ef gan ei ddyweddi ym mis Rhagfyr.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae archif Karen Blixen yn Llyfrgell Frenhinol Denmarc, ac mae'n cynnwys cerddi heb eu cyhoeddi, dramâu a straeon byrion. Yn ei harddegau ac yn ei hugeiniau cynnar, mae'n debyg iddi dreulio llawer o'i hamser hamdden yn ymarfer y grefft o ysgrifennu. Dim ond pan oedd hi'n 22 oed y penderfynodd gyhoeddi rhai straeon byrion mewn cylchgronau llenyddol, gan fabwysiadu'r enw-awdur Osceola, sef enw ci ei thad.

  • Eneboerne (The Hermits), August 1907, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Tilskueren dan yr enw Osceola)[8]
  • Pløjeren (The Ploughman), October 1907, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Gads danske Magasin, dan yr enw Osceola)[9]
  • Familien de Cats (The de Cats Family), Ionawr 1909, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Tilskueren dan yr enw Osceola)[9]
  • Sandhedens hævn – En marionetkomedie, Mai 1926, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Tilskueren, dan yr enw Karen Blixen-Finecke;[10] cyfieithwyd i'r Saesneg gan Donald Hannah dan y teitlThe Revenge of Truth: A Marionette Comedy a argraffwyd yn Performing Arts Journal yn 1986[11]
  • Seven Gothic Tales (1934 yn yr UDA, 1935 yn Denmark)[12]
  • Out of Africa (1937 yn Denmarc a Lloger, 1938 yn yr UDA)
  • Winter's Tales (1942)[13]
  • The Angelic Avengers (1946)[14]
  • Last Tales (1957)[15]
  • Anecdotes of Destiny (1958) (gan gynnwys Babette's Feast)[16]
  • Shadows on the Grass (1960 yn Lloegr a Denmarc, 1961 yn yr UDA)[17]
  • Ehrengard (1963, UDA)[18]
  • Carnival: Entertainments and Posthumous Tales (1977, UDA)[19]
  • Daguerreotypes and Other Essays (1979, United States)[20]
  • On Modern Marriage and Other Observations (1986, UDA)[21]
  • Letters from Africa, 1914–1931 (1981, UDA)[22]
  • Karen Blixen in Danmark: Breve 1931–1962 (1996, Denmarc)
  • Karen Blixen i Afrika. En brevsamling, 1914–31 i IV bind (2013, Denmark)[23]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd. [24]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Ingenio et Arti (1950), Medal Holberg (1949)[25]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jørgensen & Juhl 2016.
  2. Engberg 2003.
  3. Updike 1986, p. 1.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118857710; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/31fhb5qm0rw0j0j; LIBRIS; dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018; dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018.
  5. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118857710; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118857710; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  7. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118857710; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  8. Karen Blixen Museet 2015.
  9. 9.0 9.1 Wilson 1991, p. 318.
  10. "Marionette Plays" 2016.
  11. Dinesen & Hannah 1986, pp. 107–127.
  12. Fall, John Updike; John Updike's New Novel, Roger's Version, Will Be Published In The (23 February 1986). "'SEVEN GOTHIC TALES': THE DIVINE SWANK OF ISAK DINESEN". The New York Times. ISSN 0362-4331. https://www.nytimes.com/1986/02/23/books/seven-gothic-tales-the-divine-swank-of-isak-dinesen.html.
  13. Spurling, Hilary. "Book choice: Winter's Tales" (yn en). Telegraph.co.uk. https://www.telegraph.co.uk/culture/3649933/Book-choice-Winters-Tales.html.
  14. THE ANGELIC AVENGERS by Isak Dinesen | Kirkus Reviews (in Saesneg). 
  15. LAST TALES by Isak Dinesen | PenguinRandomHouse.com (in Saesneg). 
  16. Curry 2012.
  17. "Shadows on the Grass by Isak Dinesen" (yn en). https://www.penguin.co.uk/books/16696/shadows-on-the-grass/.
  18. "Ehrengard | Karen Blixen" (yn it-it). Adelphi Edizioni. https://www.adelphi.it/libro/9788845903892.
  19. Carnival. 
  20. Daguerreotypes and Other Essays. 
  21. Summary/Reviews: On modern marriage, and other observations /. www.buffalolib.org (in Saesneg) (St. Martin's Press). 1986. ISBN 9780312584436. Adalwyd 15 Ebrill 2017.  Check date values in: |access-date= (help)
  22. "The British Empire, Imperialism, Colonialism, Colonies". http://www.britishempire.co.uk/library/isakdinesen.htm.
  23. "Karen Blixen i Afrika : en brevsamling, 1914–31 – Karen Blixen | bibliotek.dk" (yn da). https://bibliotek.dk/da/work/870970-basis:29934460.
  24. Anrhydeddau: http://blixen.dk/liv-forfatterskab/karen-blixens-vaerker/priser-tildelt-karen-blixen/. http://blixen.dk/liv-forfatterskab/karen-blixens-vaerker/priser-tildelt-karen-blixen/.
  25. http://blixen.dk/liv-forfatterskab/karen-blixens-vaerker/priser-tildelt-karen-blixen/.