Jwnta milwrol
Enghraifft o'r canlynol | math o lywodraeth |
---|---|
Math | llywodraeth filwrol, cynulliad |
Llywodraeth a arweinir gan bwyllgor o arweinwyr milwrol yw jwnta milwrol[1] (ceir y sillafiad junta hefyd yn Gymraeg,[2] a gellir ynganu'r "j" un ai gan ddilyn patrwm y Sbaeneg, /x/ fel "ch" Gymraeg, ai gan ddilyn patrwm y Saesneg gyda /dʒ/). Mae'r gair junta yn dod o'r Sbaeneg a'i ystyr yw "cyfarfod" neu "bwyllgor" ac mae'n tarddu o'r "junta" cenedlaethol a lleol a drefnwyd fel rhan o wrthwynebiad Sbaen i ymosodiad Napoleon ar Sbaen ym 1808.[3] Defnyddir y term bellach i gyfeirio at ffurf awdurdodaidd ar lywodraeth a nodweddir gan unbennaeth filwrol oligarchaidd.[4]
Daw jwnta i rym yn aml o ganlyniad i coup d'état.[3] Gall y jwnta naill ai gymryd pŵer yn ffurfiol fel corff llywodraethu'r genedl, gyda'r pŵer i reoli trwy archddyfarniad, neu gall ddefnyddio pŵer trwy arfer rheolaeth gyfrwymol (ond anffurfiol) dros lywodraeth sy'n sifil mewn enw.[5]
Dydy'r gair "junta" o'i hun yn Sbaeneg, ddim yn golygu grym milwrol. Gall ddynodi dim mwy na "chyfarfod" neu gorff sy'n cymryd penderfyniadau.[6]
Dau fath o Jwnta
[golygu | golygu cod]Gellir dadlau bod dau fath o jwnta; rheolaeth agored a rheolaeth gudd.[7]
- Rheolaeth Agored - bydd yn yn cynnwys defnydd amlwg o'r jwnta yn gwisgo ffurfwisg filwrol, yn dathlu neu'n peidio gochel rhag ddefnydd o drais (gan gynnwys dienyddio gwrthwynebwyr gwir neu honedig), diddymu aparatws ddemocrataidd y wladwriaeth a chyfyngu neu gwaredu ar elfennau a grwpiau o fewn cymdeithas ddinesig megis pleidiau gwleidyddol, grwpiau pwyso, efallai sefydliadau crefyddol.
- Rheolaeth Gudd - gall rheolaeth gudd fod ar ffurf naill ai sifileiddio (civilianisation) neu reolaeth anuniongyrchol.[7] Mae sifileiddio yn digwydd pan fydd jwnta yn dod â'i nodweddion milwrol amlwg i ben yn gyhoeddus, ond yn parhau â'i oruchafiaeth.[7] Er enghraifft, gall y jwnta derfynu'r gyfraith filwrol, ildio iwnifformau milwrol a defnyddio gwisg sifil, "coloneiddio" llywodraeth gyda chyn swyddogion milwrol, a gwneud defnydd o bleidiau gwleidyddol neu sefydliadau torfol.[8] Ceir rheolaeth anuniongyrchol pan fo jwnta'n rheoli, neu'n ceisio rheoli, yn gudd y tu ôl i'r llenni dros lywodraeth byped sifil.[7] Gall rheolaeth anuniongyrchol gan y fyddin gynnwys naill ai rheolaeth eang dros y llywodraeth neu reolaeth dros set gulach o feysydd polisi, megis materion diogelwch milwrol neu genedlaethol.[7]
Amlrwydd
[golygu | golygu cod]Drwy gydol yr 20g, gwelwyd jwntas milwrol yn aml yn America Ladin, yn nodweddiadol ar ffurf "jwnta sefydliadol, uwch gorfforaethol neu broffesiynol" dan arweiniad prif swyddogion y gwahanol ganghennau milwrol (y fyddin, y llynges a'r llu awyr), a weithiau byddai pennaeth yr heddlu cenedlaethol neu gyrff allweddol eraill yn ymuno ag ef.[5]
Cyfundrefnau jwnta mwy nodedig
[golygu | golygu cod]Gwlad | Cyfnod rheoli |
---|---|
Thailand | 1932–1973 1976–1980 1991–1992 2006–2008 2014- |
Nigeria | 1966–1979 1983–1998 |
Gwlad Groeg | 1967-1974 |
Peru | 1968–1980 |
Brasil | 1930 1969 |
Bolifia | 1970–1971 1980–1982 |
Chile | 1973–1990 |
Portugal | 1974–1976 |
Ethiopia | 1974–1987 |
Yr Ariannin | 1976–1983 |
El Salvador | 1979–1982 |
Liberia | 1980–1986 |
Gwlad Pwyl | 1981–1983 |
Myanmar | 1988–2011 |
Haiti | 1991–1994 |
Mauritania | 2008–2009 |
Yr Aifft | 2011–2012 2013- |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Junta". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 6 Medi 2024.
- ↑ "Dygymod â chaethiwed". BBC Cymru Fyw. 16 Tachwedd 2010.
- ↑ 3.0 3.1 Junta, Encyclopædia Britannica (last updated 1998).
- ↑ Lai, Brian; Slater, Dan (2006). "Institutions of the Offensive: Domestic Sources of Dispute Initiation in Authoritarian Regimes, 1950-1992". American Journal of Political Science 50 (1): 113–126. doi:10.1111/j.1540-5907.2006.00173.x. JSTOR 3694260. https://archive.org/details/sim_american-journal-of-political-science_2006-01_50_1/page/113.
- ↑ 5.0 5.1 Paul Brooker, Non-Democratic Regimes (Palgrave Macmillan: 2d ed. 2009), pp. 148-150.
- ↑ "Junta". Briannica. Cyrchwyd 6 Medi 2024.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Paul Brooker, Comparative Politics (ed. Daniele Caramani: Oxford University Press, 2014), pp. 101-102.
- ↑ Brooker, Non-Democratic Regimes (2d ed.), p. 153.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Junta yng Ngwyddoniadur Britannica
- How the Greek Junta Took Power - Cold War Documentary rhaglen ar un o juntas mwyaf enwog yr 20g ar sianel Youtube The Cold War(2023)