Jules Supervielle

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jules Supervielle
Supervielle Harcourt 1948 2.jpg
Ganwyd Jules Louis Supervielle Edit this on Wikidata
16 Ionawr 1884 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Mai 1960 Edit this on Wikidata (76 oed)
Paris Edit this on Wikidata
Man preswyl Wrwgwái, Ffrainc Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc, Wrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ieithydd, bardd, cyfieithydd, dramodydd, ysgrifennwr, awdur ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Gwobr/au Officier de la Légion d'honneur, Prif Wobr Llenyddol Academi Ffrainc, Heredia Prize Edit this on Wikidata

Bardd, dramodydd, nofelydd, ac awdur straeon byrion o Wrwgwái yn yr iaith Ffrangeg oedd Jules Supervielle (16 Ionawr 188417 Mai 1960).[1]

Ganwyd ym Montevideo i rieni o Ffrainc: mam o dras Fasgaidd a thad o Ocsitania. Teithiodd y teulu i Oloron-Sainte-Marie, ac yno bu farw rhieni Jules cyn ei ben-blwydd cyntaf. Mabwysiadwyd gan ei ewythr a'i fodryb yn Wrwgwái ac yno buont yn byw nes yr oedd Jules yn 10 oed, pryd symudasant i Baris. Myfyriwr brwd ydoedd, gyda'r gallu i siarad Eidaleg, Saesneg, a Phortiwgaleg yn rhugl yn ogystal â Ffrangeg a Sbaeneg, ac astudiodd lenyddiaeth, celf, y gyfraith, a gwyddor gwleidyddiaeth. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Brumes du passé (1901), yn ystod ei arddegau. Cafodd ei alw i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac oherwydd yr oedd ei iechyd yn rhy wael i'w ddanfon i'r ffrynt cafodd waith yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, ym mha le'r oedd ei alluoedd ieithyddol o fudd.

Enillodd sylw yn sgil cyhoeddiad y gyfrol Poems de L'humour triste (1919). Daeth yn gyfeillgar ag André Gide a Valery Larboud, dechreuodd mynychu salon wythnosol Jacques Riviere, a chyhoeddodd ei waith yn y cylchgrawn Nouvelle Revue Francaise. Cyfieithodd Supervielle waith Larboud ac eraill o'r Ffrangeg i'r Sbaeneg, a thrwy hynny fe gyflwynodd datblygiadau Ffrengig y 1920au i gylchoedd yr avant-garde yn Wrwgwái a'r Ariannin.[2] Teithiodd i Wrwgwái yn aml yn ystod ei yrfa.

Mae ei ryddiaith a'i farddoniaeth yn hynod o wreiddiol ac yn cyfuno themâu diwylliannol a chymdeithasol Río de la Plata â dylanwadau'r avant-garde Ffrengig. Un o'i weithiau nodweddiadol ydy L'Homme de la pampa (1923), nofel gynhyrfus sy'n ymdrin â bywyd y pampas a'r byd Ewropeaidd mewn modd eironig.[2] Thema gyffredin ganddo ydy hiraeth y dyn unig am gefn gwlad a'i fachgendod eidylaidd, a'i ddyhead am frawdoliaeth y ddynolryw. Ysgrifennodd gerddi teimladwy, weithiau digrif, megis "Gravitations" (1925), "Les Amis inconnus" (1934), a "La Fable du monde" (1938). Defnyddiodd dechnegau realaeth, gan wrthod y farddoniaeth swrealaidd oedd yn ffasiynol yn hanner cyntaf yr 20g, er iddo gynnwys ffantasi, alegori, a dihangdod yn fynych yn ei waith.

Ymhlith ei weithiau eraill mae'r nofelau Le Voleur d'enfants (1926) a Le Survivant (1928), y casgliadau o straeon byrion L'Enfant de la haute mer (1931) a Le Petit Bos (1942), y dramâu La Belle au bois (1932), Bolivar (1936), a Robinson (1949), a'r gyfrol o farddoniaeth Poèmes de la France malheureuse (1941).

Bu farw ym Mharis yn 76 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Jules Supervielle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Mai 2019.
  2. 2.0 2.1 Graciela Montaldo, "Supervielle, Jules" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 554.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • J. A. Hiddleston, L'univers de Jules Supervielle (Paris: Corti, 1965).
  • Claude Roy, Jules Supervielle (Paris: Pierre Seghers, 1964).